Mae’r Twrch Cymraeg wedi cyrraedd! A llyfrnod bach handi, ylwch:
Mae’r llyfr yn fwy nag o’n i wedi’i ddisgwyl, ac yn edrych yn GRET!
Dyma flas o’r tu mewn i chi:
A sbiwch del ydi’r ‘end papers’ (rhywun yn gwybod oes na derm Cymraeg am rheiny?):
I’r rhieni, mae ‘na ddarn ychwanegol am hanes y llyfr dros y blynyddoedd (yn cynnwys enwau’r cŵn mewn gwahanol ieithoedd) a darn am sut y daeth y fersiwn Gymraeg i’r fei O’R DIWEDD! A pham penderfynu ar Dwrch yn hytrach na Gwahadden…
Gyda llaw, os fydd hyn yn codi diddordeb mewn tyrchod/gwahaddod, mae Siân Lewis wedi cyhoeddi cyfres am yr un anifail:
Llyfrau yn y gyfres Ffrindiau Bach a Mawr, sef cyfres o lyfrau darllen ar gyfer disgyblion CA1/2 Ail Iaith. Llyfrau gwybodaeth syml am y twrch daear.
Hefyd, i blant chydig hŷn, mae Dafydd Llewelyn wedi sgwennu am Tomi:
Ac mae na dyrchod yn rhain hefyd:
A be am fynd draw i Ganolfan y Dechnoleg Amgen tua 3 milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487 ger pentref bach Pantperthog, i gyfarfod Megan y Wahadden?
“Ymwelwch â byd tywyll tanddaearol Megan y Wahadden a darganfod mwy am y creaduriaid sy’n byw yn y pridd” meddai’r blyrb. Dwi rioed wedi gweld Megan fy hun, ond mae’n edrych yn wych yn y llun!
LLYFR AR GYFER OEDOLION IFANC:
Diolch i Lia sy’n gweithio yn Llyfrgell Dolgellau, dwi wedi darganfod awdur Saesneg sy’n sgwennu llyfrau wirioneddol anturus a brawychus ar gyfer oedolion ifanc. Roedd hi wedi sylwi mod i’n benthyca llwyth o lyfrau OI, ac mi gynigiodd ddod â’i chopi personol o The Enemy i mewn i mi gael blas.
Charlie Higson fu’n actio yn ‘The Fast Show’ (holwch eich rhieni) ydi’r awdur, dyma fo:
A nefi, mi ges i fy machu gan The Enemy! Jest y peth i fechgyn a merched tua 12+ sy’n mwynhau cael sioc bob yn ail bennod. A’r peth od ydi: mae o am fyd lle mae ‘na feirws wedi cymryd drosodd, feirws sydd ddim yn effeithio ar blant!
Wel, nid rhai dan 15 oed o leia. Mae’r oedolion i gyd unai wedi marw neu wedi troi’n zombies… difyr. Felly oes, mae ‘na lot o ymladd a marw, felly peidiwch â mentro os nad ydach chi’n hoffi’r math yna o beth. Ond o… mae ‘na gymeriadau hyfryd. Ydyn nhw’n marw? Gewch chi weld.
3 llyfr oedd i fod yn y gyfres, ond mae’r rheiny wedi bod mor llwyddiannus, mi sgwennodd o 7 yn y diwedd!
Rhaid i ni i gyd fynd dan ddaear, tybed? 😉
Ha! Wnes i ddim meddwl am hynna…