Asterix a thafodiaith Maldwyn

Published Chwefror 5, 2020 by gwanas

51tnAzi2jxL._SX258_BO1,204,203,200_

Mae’r llyfr diweddaraf yng nghyfres Asterix yn Gymraeg yn chwa o awyr iach go iawn: mae tafodiaith Maldwyn yn gryf (iawn) ynddo fo! Mae’r cymeriadau yn ‘clemio am ginio’ ac yn ‘gogie’ a ‘lodesi’ sy’n falch iawn o’r ‘acien.’

Does ‘na’m llawer o lyfrau sy’n rhoi sylw i Faldwyneg nag oes? ‘Cysgod y Cryman’ ac ‘Yn ôl i Leifior’ efallai, ond dwi ddim yn gallu cofio faint o sylw roddodd Islwyn Ffowc Elis i’r acen yn rheiny, chwaith, os o gwbl. Roedd llyfrau’r cyfnod hwnnw i gyd yn defnyddio iaith reit safonol. Mae nofelau Myfanwy Alexander wedi eu gosod ym Maldwyn ond ar wahân i ambell gog a lodes, eitha safonol ydi’r iaith yn rheiny hefyd ar y cyfan (i sicrhau gwerthiant o Fôn i Fynwy, fel Islwyn, debyg).

51iwZ36v7QL._SX314_BO1,204,203,200_

Ond llyfrau i blant? Allwch chi feddwl am rai? Na fi. Mae llwyth y brain yn dod o Faldwyn gen i yn ‘Llwyth’ ond wnes i ddim meddwl rhoi’r acen yn eu cegau nhw.

51H-07E2waL._SX329_BO1,204,203,200_

Ond mae Asterix wedi llenwi’r bwlch yn ‘giampus’! Dydi Asterix a Tharian y Llyw Olaf ddim i gyd yn Faldwyneg – mae’r Rhufeiniaid a’r Galiaid yn siarad y gymysgedd arferol o gog a hwntw a rhyw dwtsh o Ladin, ond gan eu bod i gyd yn chwilio am darian goll y Llyw Olaf, maen nhw’n mynd i’r Canolbarth:

HRKEiTz44C6RT18oMyYuc8kV42s2zttQzSY2VGVqOoZ6AL3rYXo_AezbZpSAJsBPzxwXWj-a-NpqBvWux2gdwSF6ku_0cQbTgEHqT_VzEHlR-v7d5Xw0JMZnKgPOjTFAA8icWjpa_7Jryp-QDTuCeZ8n

20200205_15323920200205_153151

Gwych ynde! Gobeithio y bydd trigolion Maldwyn yn gwerthfawrogi gwaith caled Alun Ceri Jones y cyfieithydd i gael yr acien yn iawn. Mi gafodd help gan dair o lodesi Maldwyn, yn cynnwys un o fy ffrindiau i, Eleri Smith Jones o Fachynlleth, sy’n dal i glemio a ffor’ wyt ti-io er ei bod hi’n byw yng Nghaerdydd ers o leia 30 mlynedd!

Hir oes i’r acien ac i Asterix.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: