Defnyddiwch eich llyfrgell!

Published Ionawr 10, 2020 by gwanas

self-discipline2

Dwi’n caru llyfrgelloedd: nid yn unig fel darllenydd, ond fel awdur hefyd. Dach chi’n gweld, bob tro dach chi’n benthyg llyfr, mae’r awdur (a’r arlunydd) yn derbyn rhai ceiniogau. Wel, os ydyn nhw wedi cofrestru efo PLR o leia, sef Public Lending Right. Awduron – os nad ydach chi wedi cofrestru, gwnewch!

A heddiw, dan ni’n cael gweld faint o bres gawn ni am eleni, am fenthyciadau wnaethpwyd rhwng Gorffennaf 1af 2018 a Mehefin 30 2019. Weihei! A dan ni hefyd yn cael gweld faint o weithiau gafodd pob llyfr ei fenthyca.

51u02-1GFPL._SX354_BO1,204,203,200_

Ar fy rhestr i, y goreuon oedd I Botany Bay: 472; Gwylliaid: 503; Cadi a’r Deinosoriaid: 645; Y Llwybr Gwaed: 745. Felly dwi’n hapus iawn! Yn enwedig efo plant a dysgwyr, gan mai llyfr ar gyfer dysgwyr ydi Y Llwybr Gwaed.

Ond yn bendant, y llyfr sy’n taro deuddeg efo benthycwyr yn ddiweddar ydi I Botany Bay, achos mi gafodd ei fenthyca 848 o weithiau llynedd a 1339 y flwyddyn flaenorol! A 400 + y flwyddyn cyn hynny.

Diolch yn fawr i bawb sy’n defnyddio eu llyfrgelloedd – a daliwch ati!

6 comments on “Defnyddiwch eich llyfrgell!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

    Google photo

    You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: