Cystadleuaeth agored i ferched o bob oed, yn awduron newydd neu brofiadol!
Mae’r manylion i gyd yn rhifyn gaeaf Cara ac ar wefan http://www.cara.cymru.
Cylchgrawn i ferched ydi Cara, os nad oeddech chi’n gwybod:
Y thema yw Adre/Adra/Cartref, gan mai’r wobr yw £100 o nwyddau gwefan Adra. Gwobr gwerth ei hennill!
A straeon byr go iawn – llai na 1,000 o eiriau!
Y dyddiad cau yw Diwrnod Santes Dwynwen, 25 Ionawr, felly dim ond rhyw bythefnos sydd i roi pin ar bapur ac i anfon eich cynigion.
Y beirniad yw Manon Steffan Ros, a bydd enw’r enillydd, a’r stori fuddugol, yn rhifyn gwanwyn Cara a fydd yn y siopau ganol mis Mawrth. Byddan nhw hefyd yn cyhoeddi mwy o’r straeon yn y dyfodol, yn y cylchgrawn print, ac ar y wefan.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan, prynwch gopi o Cara (sydd yn dal i fod yn y siopau) neu anfonwch e-bost at Efa a Meinir – cylchgrawncara@gmail.com
Ewch amdani!