Llyfrau llafar/sain

Published Rhagfyr 2, 2019 by gwanas

Dwi wedi clywed sawl person yn cwyno bod dim llyfrau llafar/sain ar gael yn Gymraeg. Wel, oes!

Ar CD ers tro ac erbyn hyn hefyd – fel e-lyfrau llafar y gallwch chi wrando arnyn nhw ar eich ffôn/ipad/cyfrifiadur – fel leciwch chi (ond dim ond os ydach chi’n byw yng Nghymru hyd y gwela i – ond efallai bod modd holi?)

36946942_1719034208217146_2389703057416912896_n

Does dim ond rhaid i chi ymaelodi efo’ch llyfrgell leol, cael cerdyn a rhif pin, ac wedyn cliciwch ar y linc isod a chwilio am y categori Welsh language.
Llwyth o ddewis da yno!

Bethan Dwyfor yn darllen Saith Oes Efa, Lleucu Roberts; Leah Owen ei hun yn darllen ei hunangofiant; Tudur Owen yn darllen ei nofel Y Sŵ

71J4ITRl9aL

– ond dwi’n gallu gweld y bydd raid i chi aros i gael benthyg hwnnw am ei fod gan rywun arall, fel mae Edau Bywyd Elen Wyn ac I Botany Bay gen i… ond mae na lwyth o rai eraill ar gael!

Dim ar gyfer plant neu bobl ifanc eto hyd y gwela i, ond os ydach chi’n gwybod yn well na fi, rhowch wybod.

https://llyfrgelloedd.cymru/my-digital-library/borrowbox/

2 comments on “Llyfrau llafar/sain

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

    Google photo

    You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: