Syniadau gwych ar gyfer Bl 1 a 2

Published Tachwedd 15, 2019 by gwanas

Mi ges i ddiwrnod prysur ond hynod ddifyr a phleserus ddoe. I ddechrau, ro’n i wedi cael gwahoddiad i Barti Hud Ysgol Bro Cinmeirch, fy ysgol ‘Cyfaill Darllen.’ Roedd plant Blwyddyn 1 a 2 wedi bod yn hynod brysur yn gwneud pob math o weithgareddau yn seiliedig ar Coeden Cadi

9781784612252

ac yn mynd i wisgo i fyny fel corachod a thylwyth teg ac wedi gofyn i minnau wneud yr un peth! Felly sbiwch be ddois i o hyd iddo fo mewn siop elusen yn Nolgellau:

EJQX4LaWwAY4Qad

A choron hefyd! Achos mae na frenhines y tylwyth teg yn y llyfr, felly fi oedd honno siwr iawn…

a dyma lun ohonon ni – a’r plant yn chwifio’r ffonau hud wnaethon nhw:

20191115_095758

Roedd y plant eu hunain a’r staff wedi meddwl am bob math o weithgareddau yn deillio o’r llyfr:

EF9iHYkWsAMikFP

Sgwennu a pherfformio eu rheolau eu hunain ar gyfer teithio ar yr enfys (achos mae ‘na reolau yn y llyfr)

20191115_123654

sgwennu o bob math a deud y gwir, a chliciwch ar y llun uchod i weld y bwyd hud wnaethon nhw, a cherbydau hud ar gyfer y corachod, a Byd yr Enfys mewn bocsiau esgidiau, a chelf arbennig o drigolion yr enfys. Dyma fwy i chi:

20191114_113243

Ac yn y parti ddoe, mi ges i weld dawns FFANTASTIG wnaethon nhw! A gweld triciau hud a chlywed jôcs:

20191114_112038

Heb sôn am y gân wirioneddol hyfryd wnaethon nhw ei chyfansoddi efo help Sam (oedd ddim yno ddoe, yn anffodus):

20191114_110150

Mi ges i flasu un o’r cacennau wnaethon nhw:
20191115_123808

a wir i chi, roedd arogl yr enfys arnyn nhw – a blas enfysaidd hefyd!

Ro’n i wir wedi mopio, gwirioni a rhyfeddu at yr holl syniadau a gweithgareddau oedd wedi deillio o fy llyfr bach i. A phan ofynnais i pam oedden nhw wedi dewis Coeden Cadi: am fod Miss Davies wedi cael llond bol ar wneud y Gryffalo! Ond roedd hi eisiau defnyddio coed fel thema (dwi’n meddwl), ac mi gofiodd rhywun bod ‘na goed (wel, coeden) yn Coeden Cadi…

5259-Y-Gruffalo

Felly dyna brofi nad oes angen troi at lyfrau Saesneg o hyd (hyd yn oed os ydyn nhw’n glasuron) a bod ‘na lyfrau Cymraeg allan fan’na sy’n gallu bod cystal. Dwi isio deud ‘os nad gwell’ ond mi fysa hynna’n rhy… wchi… yn bysa… (fi sgwennodd Coeden Cadi wedi’r cwbl).

Wedyn y noson honno es i yn fy mlaen (fy mol yn llawn cacen hud a fy llygaid yn llawn enfysau) i Fenllech, Ynys Môn i holi Marlyn Sanuel am ei 4edd nofel ar gyfer oedolion, Cicio’r Bwced. Os oes gynnoch chi rieni neu neiniau a theidiau sy’n mwynhau chwerthin, mae’r nofel hon yn wirioneddol ddigri! A thrist hefyd weithiau… ond noson hwyliog tu hwnt oedd hon, efo John ac Alun yn ei morio hi:

77352022_10156816542928511_8138111535768666112_n

y lle mor llawn, roedd rhaid chwilio am fwy o gadeiriau:

76263486_10156816542573511_993693632286425088_n

ac mi werthwyd pob un copi o’r llyfr!

76249344_10156816542853511_4857577496033361920_n

Roedd hud Bro Cinmeirch wedi cyrraedd Ynys Môn yn amlwg…

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: