Cadi a’r Celtiaid ar y ffordd!

Published Gorffennaf 18, 2019 by gwanas

CADI CELTIAID P5

Mae Janet Samuel yr arlunydd wedi gyrru cynlluniau bras o ddarluniau ar gyfer y 4ydd llyfr am Cadi, Cadi a’r Celtiaid, a dwi wedi gwirioni!

Dyma i chi un o fy ffefrynnau, gan ei fod yn cynnwys ci coch tebyg iawn i Del ni!

CADI CELTIAID P39
DSC_0194

A dyma i chi flas o chydig o luniau eraill:

CADI CELTIAID P28-29CADI CELTIAID P33 copyCADI CELTIAID P37 copyCADI CELTIAID P41

A sgwn i os allwch chi ddyfalu lle mae’r stori wedi ei gosod?

CADI CELTIAID P24-25 copy

Dydi’r clawr ddim wedi ei benderfynu’n iawn eto. Ro’n i’n hoffi hwn, ond roedd fy Modryb Rhiannon (sy’n dallt y pethau ‘ma) yn teimlo ei fod yn rhy frawychus ar gyfer plant 5-8 oed, ac mae hi’n iawn tydi?

CADI CELTIAID COVER2 FRONT copy

Hwn oedd y cyllun arall, ond mae angen chydig mwy o gliwiau ynglyn â chynnwys y stori dwi’n meddwl. Be dach chi’n feddwl?

CADI CELTIAID COVER1 FRONT

Methu aros i weld y cyfan yn orffenedig ac yn llawn lliw!

Gyda llaw, mae ‘na arddangosfa ‘Darlunwyr Cymreig’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar hyn o bryd, yn dangos “y gorau ym maes darlunio Llyfrau Cymreig, o’r Mabinogion i Rala Rwdins” a dwi jest a drysu isio mynd i’w weld o, hyd yn oes os ydyn nhw wedi anghofio am Janet!

D9krhn9X4AAZ1GKD9krdBsXoAE8TuZD9krfM4WsAAWm8i

Mi fydd ar agor tan Awst 22.

Advertisements

2 comments on “Cadi a’r Celtiaid ar y ffordd!

  • Helo Bethan, Edrych ymlaen i ddarllen Cadi a’r Celtiaid, mae’r gyfres wedi bod yn gret hyd yma. Tybed fedri di argymell unrhyw lyfrau eraill ar gyfer yr oedran yma? Mae’r mab yn troi’n saith wythnos nesaf, ac wedi gofyn am lyfrau y gall o’i ddarllen ei hun. Mae o wedi mwynhau darllen ‘Bwch’ gan Anni Llyn iddo’i hun, ac mae o i weld yn medru darllen yn o rhugl, a mwynhau stori mwy estynedig erbyn hyn (dwi’n meddwl bod o’n eithaf hoffi bod ‘Bwch’ ar fformat nofel, er bod ‘na dipyn o luniau ynddo fo hefyd.) Jyst meddwl tybed oes ‘na rhywbeth yn neidio i’r meddwl yr wyt ti wedi dod ar ei draws yn ddiweddar? Diolch yn fawr, Seran

    • Falch bod Cadi’n plesio! Mae na 6 llyfr arall yng nghyfres Roli Poli, fel Bwch, efo’r un arlunydd hefyd. Dwi’m wedi gweld bob un ond mae Deri Dan y Daliwr Dreigiau a Nan a’r Sioe Fawr i’w gweld yn boblogaidd, a dwi wedi adolygu’r ddau ar y blog yma.
      Be am Llyfr Mawr y Pants? Dwi’n cofio fy nai yn cael modd i fyw efo hwnnw, er nad nofel mohoni, jest llwyth o jôcs a phethau gwirion – ond lot o hwyl! Mae llyfrau Tomos y Llygoden ar gyfer yr oedran yna hefyd – eto, mi fedri weld fy adolygiad i ar y blog ma – jest teipia’r enw yn y bocs chwilio. Pob lwc!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

    Google photo

    You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: