Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo?
Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.
Penderfyniad gwych gan y beirniaid, a dwi’n gwybod bod Manon yn falch iawn bod yr hen Joe wedi curo Llyfr Glas Nebo. Difyr fydd gweld pa lyfr fydd yn ennill LLyfr y Flwyddyn rŵan ynde… pob lwc, feirniaid!
Llongyfarchiadau hefyd i’r 18 criw (ia, 18!) lwyddodd i gyrraedd Eisteddfod Caerdydd efo’u hymgomau BL 7,8,9, sef detholiad o fy llyfr i, Gwylliaid:
Ond llongyfarchiadau mwy i’r 3 gyrhaeddodd llwyfan y Brifwyl, o Ynys Môn, Plas Mawr (Caerdydd) a Chaernarfon.
Criw dawnus a hollol boncyrs o Gaernarfon enillodd y wobr gyntaf:
Ac ro’n i’n cytuno’n llwyr efo’r beirniaid – roedden nhw i gyd yn ardderchog, ond roedd y Cofis wedi creu detholiad clyfar iawn, ac wedi actio’n gwbl wych. Ro’n i’n eitha nerfus cyn gwylio’r gystadleuaeth – be os na fyddai fy llyfr i’n ‘gweithio’ fel ymgom ar lwyfan? Ond diolch i’r nefoedd, ro’n i’n hynod falch o’r canlyniad.
O, a dwi wedi deall mai meibion y gwleidydd Guto Bebb ydi’r ddau hogyn oedd yn actio’r ‘gwylliaid’. Nefi!