Cyfle i gael llyfr am ddim, a mwy o ‘Maes y Mes.’

Published Ebrill 18, 2018 by gwanas

Dyma i chi syniad gwych! Cyfle i blant ennill pecyn o lyfrau am ddim, a thynnu sylw at Wobr Tir na n-Og yr un pryd. Manylion yn y llun isod:

image

Does ‘na ddim dyddiad cau hyd y gwela i, ond nifer cyfyngedig o lyfrau am ddim sydd ar gael, felly brysiwch! Byddai sgwennu am bob un yn anodd, felly be am ddewis un a sgwennu am hwnnw? Does dim angen traethawd! Dwi’n siwr y byddai hanner tudalen yn ddigon – pargraff hyd yn oed! Ac mae modd gyrru clip fidio hefyd – be amdani?

A mwy o newyddion da: mae’r 2 lyfr nesaf yn y gyfres Maes y Mes yn y siopau rŵan. Cyfres i blant 5-8 oed ydi hi, gan yr awdures/llyfrgellyd Nia Gruffydd gyda lluniau gan Lisa Fox.

Rydan ni eisoes wedi gweld straeon am dylwyth teg yr hydref a’r gaeaf, a rŵan, dyma straeon y gwanwyn a’r haf.

Dwi’n meddwl mai Brwynwen a’r Aderyn Anferth ydi’r stori orau o’r 4, achos mi ges i fy nhwyllo – doedd gen i ddim syniad pam fod darnau arian yn ymddangos bob munud – ond efallai eich bod chi’n anghytuno? Rhowch wybod!

Dyma i chi flas o sori Brwynwen:

image

A blas o stori Briallen a brech y mêl:

image

Ydi, mae Briallen druan yn sal ar adeg anffodus iawn, bechod. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld be sy’n digwydd iddi…

Mae ‘na dipyn o sôn am fwyd a dillad yn y llyfrau hyn, felly os ydach chi’n nabod plentyn 5-8 oed sy’n hoffi bwyd a dillad a ffasiwn, be am roi copi o un o’r llyfrau hyn iddyn nhw? Neu gwell fyth, becyn o’r 4 llyfr.

£3.99 yr un, gan Y Lolfa.

Ond dwi’n siŵr y byddai Nia yn hapus i weld y 4 llyfr yn cael eu benthyca o’r llyfrgell hefyd – gan mai llyfrgellydd ydi hi. Dwi’n siŵr ei bod hi wedi cofrestru efo PLR, siawns! PLR (public lending right) sy’n talu 8c i’r awdur am bob tro mae llyfr yn cael ei fenthyca. Felly prynwch a benthycwch o lyfrgell – cefnogwch ein hawduron!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: