Sut i annog plant i ddarllen

Published Ionawr 26, 2018 by gwanas

ab96862f2f5586a2aef4193079492da5

Dwi’m yn cofio pa awdur plant (enwog, Saesneg) ddywedodd hyn, ond dwi wedi ei gymreigio a’i gocoseiddio fymryn:

Os wyt am annog plant i ddarllen
Dyma’r geiriau sydd eu hangen:

“’Di hwn ddim ar dy gyfer di,
mae’n llawn o bethau ych a fi,
anaddas i dy oedran di.
Mae ’na fryntni a rhegi a marw a threngi
a chwffio a waldio sy’n siŵr o d’ypsetio.
A does ynddo’r un llun,
felly paid ti â’i gyffwrdd nes byddi di’n hŷn.
Fan hyn ar y silff ydi’i le o –
paid ti â meddwl ei agor o.
Iawn, dwi’n mynd â’r ci am dro.
Hwyl.”

Ydach chi’n cytuno efo hyn? Ai deud wrth blant i beidio ydi’r gyfrinach?

Reading-under-Bedclothes

One comment on “Sut i annog plant i ddarllen

  • Mae’n gweithio efo oedolion, hefyd. Dw i’n cofio stori rhywun oedd yn dysgu Chaucer i oedolion. Yn y wers gyntaf, dywedodd o wrthyn nhw bod nhw’n mynd i ddarllen pob un o’r Canterbury Tales, “heblaw hanes y melinwr, am resymau amlwg.” Wnaeth o’m esbonio. Ar dechrau’r wers arall, dywedodd o “Reit, dw i eisiau i chi agor eich llyfrau a ffeindio hanes y melinwr, dw i’n rhagdybio bod chi i gyd wedi ei ddarllen erbyn hyn.” Oedden nhw.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

    Google photo

    You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: