Arthur Rackham – arlunydd gwych

Published Medi 20, 2017 by gwanas

DKEx4u9XUAE6oJ9

Wedi gweld y llun yma o’r blaen? Y Cheshire Cat allan o fersiwn 1907 o Alice in Wonderland gan yr arlunydd rhyfeddol, Arthur Rackham. Gwych tydi? Anodd peidio gwenu wrth sbio arno fo.

A dyma un arall o’i luniau o:

DKExxS0XoAEV-Un

Mae hwnna’n enwog iawn ac wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cardiau a phosteri ayyb ers blynyddoedd.

A dyma un arall dwi’n ei hoffi’n fawr:

DKEx2JUWkAUIszL

Arthur Rackham (1867-1939) oedd un o ddarlunwyr ‘Oes Aur’ llyfrau gyda lluniau arbennig, o tua 1890 tan ddiwedd y Rhyfel Byd cyntaf. Roedd ‘na alw mawr am lyfrau gyda lluniau o safon uchel fel hyn bryd hynny. Roedd llawer o lyfrau Rackham yn cael eu argraffu mewn fersiwn de luxe cyfyngedig, wedi eu harwyddo gan amlaf, yn ogystal â fersiwn rhatach. Yn anffodus, chwalodd y Rhyfel y farchnad am lyfrau drud fel’na, ac yn y 1920au, edwinodd y diddordeb mewn llyfrau am dylwyth teg a byd ffantasi. Bechod.

rackham_fairy

THE-FAIRIES-ARE-EXQUISITE-DANCERS-1-ARL0031

Mae ei lyfrau gwreiddiol a’i luniau yn hynod boblogaidd rŵan, ac yn gwerthu am ffortiwn – sbiwch ar silffoedd Nain a Taid, rhag ofn! Ar ebay, mae ‘na rai’n mynd am dros fil o bunnoedd.

rackham9

 

 

A sbiwch ar hwn – tydi o’r un sbit â Tormund Giantsbane o Game of Thrones?

The-Rhinegold-and-The-Valkyrie_Rackham

Roedd y boi yn athrylith, ac mi fyddai wedi cael ein ben-blwydd ddoe, Medi 19. Mae ‘na lyfrau o’i luniau o ar gael mewn fersiynau cyfoes, tipyn rhatach na mil o bunnoedd a dwi’n cael fy nhemtio…

wb_pandora

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: