Syniad gwych gan Y Lolfa! Calendr lliwgar gyda 12 llun o 12 llyfr plant gwreiddiol y Lolfa a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cynnwys lluniau gan artistiaid fel Jac Jones, Janet Samuel, Valériane Leblond ac Angharad Tomos.
Dwi ddim wedi gweld tu mewn y calendr eto ond os oes rhywun isio prynu anrheg Nadolig i mi – mi wnaiff hwn yn champion. Dim ond £4.99 gyda llaw.
Ia, do, dwi wedi gwirioni am fod lluniau Coeden Cadi ar y clawr, ond mi faswn i isio copi beth bynnag. Mae angen mwy o bethau fel hyn yn does? Nwyddau sy’n tynnu sylw at lyfrau a chymeriadau a darluniau gwreiddiol o Gymru.
Mae ‘na gardiau ‘Snap’ Rwdlan ar gael eisoes:
A llwythi o grysau T ac ati
Ac mae brand Sali Mali yn cael ei ddefnyddio’n dda hefyd:
Ond mae ‘na lawer mwy o lyfrau plant gwreiddiol da ar gael rwan, efo darluniau gwirioneddol wych. Tipyn o gambl fyddai i wasg archebu llwyth o nwyddau wedi eu seilio ar un llyfr neu gymeriad y dyddiau yma, ond drwy ddod â sawl llyfr at ei gilydd fel hyn – bingo. Da iawn Y Lolfa.
Be am bapur lapio? Papur wal? Bagiau? Sanau? Printiau o’r lluniau mewn ffrâm? Ond hyd yn oed tase pob teulu efo plant Cymraeg yn cefnogi nwyddau Cymraeg, a fyddai hynny’n ddigon i’w wneud yn fenter busnes call? Dwn i’m. Ond mi fyddai’n rhaid sicrhau bod y llyfrau a’r cymeriadau yn ddigon adnabyddus yn gyntaf, a dydi hynny ddim yn hawdd pan yn cystadlu efo’ch Peppa Pincs a’ch cymeriadau Disney.
Mae rhai o’r arlunwyr yn cynnig gwerthu eu paentiadau gwreiddiol, fel hwn o Trysorfa Chwedlau Cymru ( Gomer) gan Brett Breckon :
Ond y llun gwreiddiol ydi o – ac mae’n £500. Ond yn werth bob ceiniog wrth gwrs! Ond efallai yn fwy addas i blant hŷn…
Be am hwn, o Hosan Nadolig ( Gomer) i blant iau? £600.
Mae gan Valeriane Leblond wefan, ond dim lluniau yn ymwneud â’r llyfrau mae hi wedi eu darlunio hyd y gwela i. A dwi methu dod o hyd i wefannau Jac Jones na Janet Samuel! Dim angen gwefannau yn amlwg. A phwy ydw i i feirniadu? Mi wnes i wefan oes yn ôl ond mae o wedi diflannu!