Dw i ddim yn gwybod be oedd dewisiadau llyfrau ysgolion siroedd eraill, ond dwi i wedi cael gwybod be oedd y drefn yng Ngwynedd yn ystod y rowndiau sirol a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth eleni:
“Yng Ngwynedd cafwyd 16 ysgol yn cystadlu (53 o dimau) – sy’n ffigwr digon derbyniol.
Y patrwm arferol sy’n cael ei weld ydy fod ysgol yn dewis un llyfr Cymraeg gwreiddiol a’r ail lyfr yn addasiad. Mae llais y plentyn yn cael sylw amlwg yn y dewisiadau yn aml sy’n egluro poblogrwydd Mr Ffiaidd.
Na Nel a Saith Selog oedd y llyfrau mwyaf poblogaidd ymysg disgyblion blwyddyn 3 a 4.
Mr Ffiaidd, Charlie a’r Ffatri siocled a Yr Argae Haearn oedd y llyfrau mwyaf poblogaidd ymysg disgyblion blwyddyn 5 a 6.
Ond dw i’n digwydd gwybod bod Ysgol Edern
(ysgol sy’n ennill yn aml iawn, iawn) wedi dewis dau lyfr gwreiddiol. Da iawn chi! A phob lwc yn y rownd genedlaethol fis Mehefin… dw i’n gwybod mai dyma fydd un o’u dewisiadau nhw bryd hynny:
Helo Bethan. Ma rhywun wedi awgrymu ein bod ni’n darllen Dwr yn yr Afon gan Heulwen Thomas yn ein Clwb Llyfrau yn yr Hydref. A fydde syniad da chi pa Wasg sy’n ei argraffu os gwelwch yn dda? Rwy’n methu dod o hyd iddo fe ar Google. Gyda diolch, Elin
Gwasg Gomer. Ond Heiddwen Tomos ydi’r enw! Mae’n deud ar gwales.com ei fod wedi gwerthu allan, ond dwi’n siwr y byddan nhw’n ailargraffu’n fuan iawn…