Rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017.

Published Mawrth 28, 2017 by gwanas

Mae’r llyfrau wedi eu dewis eto eleni a dyma nhw, efo disgrifiadau’r Cyngor Llyfrau/ y panel dewis:

Teitlau’r rhestr fer Gymraeg:
ABC Byd Natur  gan Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch)

getimg

Trwy gyfrwng y lluniau collage gwreiddiol o wahanol wrthrychau a delweddau o fyd natur, caiff y plentyn ifanc ei hudo i fynd ar daith natur yng nghwmni llythrennau’r wyddor Gymraeg.
Deg Chwedl o Gymru  gan Meinir Wyn Edwards, darluniwyd gan Gini Wade a Morgan Tomos (Y Lolfa)

getimg-1

Cyflwynir cyfoeth ein traddodiad llafar chwedlonol yn effeithiol trwy gyfrwng y detholiad hwn, a chaiff y darllenydd gyfle i ddod i adnabod gwahanol ardaloedd o Gymru yn sgil y chwedlau a ddewiswyd.
Dim Ond Traed Brain  gan Anni Llŷn, darluniwyd gan Valériane Leblond (Gomer)

getimg-2

Ceir cyfuniad trawiadol o 21 o gerddi newydd gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a lluniau hudolus Valériane Leblond o fewn cloriau’r gyfrol hyfryd hon.
Yr Argae Haearn  gan Myrddin ap Dafydd, darluniwyd gan Graham Howells (Gwasg Carreg Gwalch)

getimg-3

Nofel lawn cyffro am hanes trigolion cymuned Cwm Gwendraeth Fach yn Sir Gaerfyrddin yn mynd ati i wrthwynebu boddi eu tiroedd a’u cartrefi dan ddŵr yn ystod haf 1963.
Pluen  gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

getimg-4

Nofel sy’n archwilio nifer o themâu cyfoethog a heriol wrth adrodd stori Huw, bachgen 12 oed sy’n mynd ati i weithio ar brosiect hanesyddol am yr Ail Ryfel Byd dros wyliau’r haf.

Dim ond 2 gyfrol sydd yn y categori uwchradd hyd y gwela i. Llyfrau gwreiddiol yn brin ar gyfer yr oedran hwnnw eleni mae’n rhaid. Sgwn i pam? Digon o addasiadau does.

Rwan, dwi’m yn un am fetio, ond ers rhai blynyddoedd, mae diwyg llyfrau wedi bod yn fwyfwy pwysig yn y gystadleuaeth hon, a stori newydd, wreiddiol yn llai pwysig. Datblygiad naturiol am wn i, a llyfrau Cymraeg wedi cymryd camau breision ymlaen o ran dylunio a diwyg. Felly, er mai dim ond geiriau unigol sydd yn ABC Byd Natur, mae’r lluniau yn hyfryd. O’r herwydd, mae hon yn beryg. Dwi’m wedi gweld Deg Chwedl o Gymru eto, a dyw’r straeon ddim yn newydd fan hyn, ond maen nhw’n amlwg yn fersiynau newydd, a thipyn o waith wedi mynd i mewn iddyn nhw. Mae dwy gyfrol debyg wedi ennill yn y gorffennol ond efallai bod diwyg rheiny wedi bod yn fwy trawiadol? Mae gan Valériane Leblond record arbennig yn y gystadleuaeth ( a hynny’n haeddiannol) felly mae’n eitha posib mai cerddi Anni Llŷn eith â hi. Sylwch ar y geiriau ‘trawiadol’ a ‘hudolus’ yn y disgrifiad. Mae’r ansoddeiriau gan amlaf yn gliw. Gawn ni weld!

O ran y rhai uwchradd, dwi eisoes wedi canmol y dwy gyfrol ar y blog yma, dwy stori wreiddiol, dda. Ond yn fy marn i, Pluen sy’n mynd â hi. A sbiwch, mae honno’n cael 2 ansoddair – ‘cyfoethog a heriol’ – dim ond ‘lawn cyffro’ gaiff Myrddin ap.

Edrych ymlaen i weld pwy gaiff hi!

Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái, ddydd Iau, 1 Mehefin.

Pob lwc i bawb.

Advertisements

2 comments on “Rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: