Mae Sonia Edwards wedi cyhoeddi rhyw 30 llyfr i gyd, ar gyfer plant ac oedolion ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996 am Glöynnod a’r Fedal Ryddiaith yn 1999 am Rhwng Noson Wen a Phlygain. Llwyddodd i sgwennu’r holl lyfrau tra roedd hi’n athrawes (Gymraeg) yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn. A dyma rai o’i llyfrau hi:
Llongyfarchiadau mawr i’r awdur, Sonia Edwards, am lunio nofel sydd mor atyniadol i bobl ifanc. Braf iawn yw cael nofel wreiddiol mor ddarllenadwy yn Gymraeg.
Mae popeth sydd ei angen mewn nofel dda i’w gael yn hon. Yn gefndir iddi mae byd y sioeau cerdd – pwy gaiff actio’r brif ran? Dyma stori ddirgelwch gyda thipyn o antur a chyffro – a fyddech chi’n fodlon mentro allan i dŷ gwag yn y tywyllwch er bod ysbryd yno? Pwy sydd eisiau rhoi’r tŷ ar dân? Dyma stori ddigon doniol ar adegau, yn enwedig anturiaethau Wilff y ci yn bwyta’r hosan! A dyna i chi’r stori garu, pwy mae Arwyn yn ei ffansïo? Beth sy’n digwydd rhwng Moelwyn ac Enfys?
Mae holl ing a theimladau bod yn eich arddegau yma y gall bob person ifanc uniaethu â nhw, o’r cochi a’r ffrindiau, i fechgyn a rhieni yn codi cywilydd arnoch. Mae hi’n sicr yn nofel sy’n darllen ac yn llifo’n hawdd (diolch yn bennaf i benodau byr a stori afaelgar). Mae’r iaith ynddi yn gref a chyhyrog ond yn gyfoes iawn, ac yn siŵr o ehangu geirfa – roeddwn i’n hoff iawn o’r holl gnawes, jadan, a jolpan. Efallai fod y diweddglo yn rhy ffuglennol o hapus, a bod cymeriad y prifathro braidd yn ystrydebol, ond dyma yn sicr nofel berffaith i’r rhai dros 11 oed.
Gwenllïan Dafydd
Erbyn hyn mae hi wedi ymddeol o’i swydd dysgu ers haf 2016.
“Roedd hi’n hen bryd ar ôl deng mlynadd ar hugain! Mwy o amser i (gymryd arnaf fy mod i’n) sgwennu!”
Mae’n dal i fyw yn Llangefni, ac wedi cael ci newydd: ast Dogue de Bordeaux o’r enw Popi (enw swyddogol y Kennel Club: Ynys Mon Pabi Coch)
A dyma lun o’r math o gi ydi Popi!
Sori Sonia, dwi’n siwr bod Popi yn ddelach na hynna…
“Na, dan ni ddim yn mynd i Cruft’s! Bellach dan ni fel fersiwn mwy benywaidd o Turner and Hooch. O, mae hi’n ciwt! A mwy o rincls na fi felly dwi’n edrach yn fengach wrth ei hochr hi!”
Y newyddion da ydi ei bod hi’n defnyddio ei rhyddid newydd i sgwennu gryn dipyn. Bydd nofel ar gyfer oedolion allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae nofel i’r arddegau ar y gweill. Y gobaith yw gweld honno yn 2018 – tân dani, Sonia!
Mae hi hefyd wedi dechrau ymddiddori mewn siabi-shicio dodrefn. “Ac mi leciwn i ddweud fy mod i’n canu mewn band ond Rhys y mab sy’n gneud hynny! Fo ydi prif leisydd Fleur de Lys felly mae yna dipyn o ‘street cred’ mewn bod yn fam i roc star!”
Clip o’r band yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fan hyn:
https://www.bbc.co.uk/music/artists/f3e89ced-db84-41c5-9427-acb4618f3fa4
A dyma atebion Sonia i fy nghwestiynau i:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Popeth Enid Blyton a ‘Lois’ ac ‘Esyllt’ gan Elisabeth Watkin Jones.
- b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Nofelau Islwyn Ffowc Elis fel ‘Ffenestri Tua’r Gwyll’ ac ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ a stwff y chwiorydd Brontë – ‘Jane Eyre’, ‘Wuthering Heights’ a ‘Villette’.
- Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
‘Pen Dafad’ gan Bethan Gwanas hefo Bl. 7 cyn i mi ymddeol! Wastad yn ffefryn! (Diolch, Sonia… 🙂 Bethan)
- Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Brett Breckon – lliwgar ac yn tynnu sylw.
- Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Steddfod Môn 1992 ac Eigra’n beirniadu.
- Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Dihangfa. Mae o’n therapiwtig pan dwi angen symud fy meddwl. Rhywbeth i droi ato mewn argyfwng hyd yn oed!
- Dwed chydig am dy lyfr diweddara i blant.
‘Bryn Arth’. Cwmni lorïau yn cael ei redeg gan dedi bêrs. Dipyn ers hynny erbyn hyn.
Disgrifiad GwalesNofel am deulu bach o eirth sy’n rhedeg cwmni loris Edwyn Bêr a’i Fab, Bryn Arth. Mae’r cwmni’n cael llawer o anturiaethau wrth fynd o gwmpas y lle yn cyflawni eu gwaith bob dydd, yn cynnwys helpu i ddal jiraff sydd wedi dianc o sŵ Caer, mynd â’r fuwch ddu Seren Nadolig i Sioe’r Sir, achub llond lori o hufen iâ rhag mynd yn wastraff a llwyddo i ddatrys problem carnifal y pentref.Nofel fer, lawn hiwmor am deulu o eirth sy’n rhedeg busnes lleol llwyddiannus ym mhentref Bryn Arth. Edwin Bêr biau’r cwmni ac mae’n berchen ar fflyd o lorïau coch a melyn yr un lliwiau â baner Owain Glyndŵr. Mae ganddo lorïau ar gyfer gwahanol anghenion – lorri ludw i gario sbwriel, lorri i gario dodrefn i bob rhan o Gymru, lorri sgip, lorri wartheg a lorri-cario-pob-dim. Gyrwyr y lorïau ac arwyr y stori yw Tecwyn Bêr (Tecs), mab Edwin, a Stwnsh, ffrind gorau Tecs. Tipyn o gês a thynnwr coes yw Stwnsh. Ac ni ddylid ychwaith anghofio am Moli sy’n gofalu am y swyddfa brysur.
Cymeriadau annwyl iawn yw’r rhain. Maent yn weithwyr caled, a chydag amser gwelwyd y cwmni yn ehangu ac yn cyflogi mwy o weithwyr. Ar eu teithiau bu’n rhaid iddynt wynebu pob math o argyfyngau ond llwyddant i’w datrys.
Ychwanegiad at yr hiwmor a geir yn y nofel yw darluniau du-a-gwyn Helen Flook.
Nofel anthropomorffaidd yw hon, lle y priodolir nodweddion dynol i anifeiliaid. Mae hyn yn ddyfais gyffredin mewn llenyddiaeth plant, er enghraifft Siôn Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac a Winnie the Pooh. Pam, tybed, mae anifeiliad wedi’u personoleiddio mor boblogaidd mewn storïau i blant ac i ba bwrpas y gwneir hynny? Maes trafod diddorol.
- Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Nofel i’r arddegau wedi’i chomisiynu gan y CAA. Stori am efeilliaid 13 oed gafodd eu gwahanu ar eu genedigaeth a’u mabwysiadu.
Diolch, Sonia! Pob lwc efo’r sgwennu – a Popi.