Dyna fy mhregeth i ers blynyddoedd. Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl sy’n deud eu bod wedi trio hoffi nofelau, ond wedi methu – dynion gan amlaf, ond nid bob tro. Iawn, dan ni gyd yn wahanol ac yn mwynhau pethau gwahanol; mae rhai jest yn methu derbyn straeon dychmygol, neu o leia yn methu mwynhau straeon “sydd ddim yn wir.” Mae nifer o bobl mwy technegol eu natur yn mwynhau darllen am bethau ffeithiol – iawn – mi fydda i’n mwynhau llyfrau felly hefyd. Ond dwi wir yn meddwl bod ‘na “frân i frân yn rhywle” lle mae nofelau yn y cwestiwn. Dyna lle mae gwybodaeth llyfrgellwyr, athrawon, rhieni a darllenwyr eraill yn hollbwysig – yn enwedig yn y dyddiau cynnar, pan mae modd bachu dychymyg plant a chreu darllenwyr am oes. Dyna fy marn i o leia. Ydach chi’n cytuno? Neu oes ‘na rai pobl nad oes modd eu bachu o gwbl, byth?
A dyma daflen efo chydig o syniadau am sut i helpu eich plentyn i garu darllen:
Cytuno, Bethan!