Siom y llyfrau codi fflap

Published Tachwedd 30, 2016 by gwanas

Wel wel… a ninna’n meddwl bod llyfrau plant bach sy’n cynnwys fflapiau a darnau o ddefnydd ac ati un ddefnyddiol ar gyfer annog plant i ddysgu darllen.

Gesiwch be? Tydyn nhw ddim – wel, ddim efo pawb. Mi nath tîm ymchwil o’r Royal Holloway yn Llundain ymchwil efo 31 plentyn –

mi wnes i stopio yn fanna i weld os oedd gan Bruce air da am ‘toddler’ a dwi wedi chwerthin , rhaid cyfadde: Allwch chi ddim galw toddler yn dwlsyn! Nac yn dwlsen!

geiriadur

toddler n.[-]
plentyn bach (plantos, plant bach), crwtyn m (crwts),
croten (crotesi), crotesf (crotesi),N.W:occ: twdlyn m,
shwlyn m, S.W:occ: twlsyn m,twlsen f,
A rwan dwi methu cael gwared o’r bocs yma. Grrr. Ond jest isio deud : mi ddarganfyddodd yr ymchwil ‘ma (efo 31 twdlyn) bod y plant wedi dysgu’n llawer gwell efo’r llyfrau heb fflapiau. Ffaith! “Too distracting” oedd yn y datganiad ac mi fedra i ddeall hynnna. Mae plant yn ffidlan gymaint efo nhw, dydyn nhw’m yn sbio ar y geiriau na’r lluniau nacdyn?
Weithiau, mae gormod o ffrils yn gallu gneud mwy o ddrwg nac o les.
Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: