Llyfrau Plant Gwobr Costa

Published Tachwedd 23, 2016 by gwanas

Mae’r fersiwn Prydeinig o Wobr Tir naN’og, y Gwobrau Costa, newydd gyhoeddi eu rhestr fer o lyfrau gorau ar gyfer plant, ac mae’n edrych yn ddifyr iawn:

Mae Francesca Simon ( awdures llyfrau Horrid Henry) wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf ar gyfer plant h^yn: The Monstrous Child sy’n gomedi du efo cyffyrddiad o chwedlau Nordig mae’n debyg. “It’s a fizzing, gory read” yn ôl The Guardian.

317600043

Mae Orangeboy gan Patrice Lawrence yn nofel ar gyfer YA ( oedolion ifanc) sy’n dilyn brwydr hogyn 16 oed efo ffawd. Hefyd yn cael ei ganmol i’r cymylau. Reit – sylw bocs sebon: Mae’r sylw mae’r llyfrau hyn yn eu cael cyn cyrraedd rhestr fer Costa yn tanlinellu cyn lleied o sylw mae llyfrau plant Cymraeg yn ei gael. Doedd neb wedi adolygu Pluen gan Manon Steffan Ros nes i mi neud ar y blog yma. Grrrr…

1365979737

Yr unig un ar y rhestr dwi eisoes wedi’i ddarllen  ydi Time Travelling with a Hamster gan Ross Welford ( fawr ddim am yr hamster, mwy am y bachgen sy’n trio achub bywyd ei dad drwy deithio mewn amser) ac mae’n wirioneddol hyfryd. Dyma be ddeudes i amdano ar y blog ‘ma pan ro’n i ar ganol ei ddarllen:

Dwi’n cael trafferth ei roi i lawr! A dwi’n gwybod y bydda i’n crio cyn y diwedd.

2102636912

Nofel efo arwr 14 oed ydi The Bombs That Brought Us Together gan Brian Conaghan, stori am gyfeillgarwch a rhyddid mewn byd o ryfela.

215184208

Rhestr dda. Dwi isio’u darllen i gyd rwan.

Mae ‘na gategoriau eraill yn y gystadleuaeth, ac yn yr un am nofel gyntaf ( ar gyfer oedolion) mae Mae name Is Leon gan Kit de Waal, un arall dwi eisoes wedi ei ddarllen.

9780241207086

Chwip o stori, arhosodd efo fi am hir. Ac un delfrydol ar gyfer yr arddegau hefyd, ddeudwn i.

Maen nhw’n lwcus bod cymaint o ddewis ar gael yn Saesneg tydyn? Mae’r llyfrau Cymraeg ar gyfer yr arddegau eleni yn gywilyddus o brin, ond efallai bod â wnelo marwolaeth Gareth F Williams rhywbeth â hynny. Roedd gynno fo sawl un ar y gweill.

Maen nhw’n deud bod mwy tipyn mwy o nofelau plant Cymraeg, gwreiddiol ar y gweill ar gyfer 2017. Ieeee!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: