Pluen

Published Tachwedd 19, 2016 by gwanas

getimg

Dwi newydd orffen nofel ddiweddara Manon Steffan Ros ar gyfer plant, a dwi wedi ei mwynhau hi’n arw.

Yn ôl y wybodaeth ar gwales.com, mae hi ar gyfer plant 9-11, ond mi blesiodd hen ddynes yn ei 50au hefyd!

photo-on-19-11-2016-at-14-29

Stori hogyn 12 oed o’r enw Huw yn ystod un gwyliau haf  ydi hi – un haf pan ddechreuodd goelio mewn pethau oedd ddim yn bod. Dyma’r dudalen gynta:

fullsizerender

Mae Huw wrth ei fodd yng nghwmni ei nain anghyffredin, a phan mae’n sylweddoli ei bod hi’n dechrau dioddef o salwch meddwl dydi o ddim yn siwr sut i ymateb. Daw’n amlwg ei bod hi’n cuddio cyfrinach am ei brawd, Hywel, ac wrth i Huw ymchwilio i hanes Hywel yn yr Ail Ryfel Byd, mae pethau rhyfedd yn digwydd.

Dyma ddisgrifiad Gwales:

Nofel i blant gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy’n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae’n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Nofel annwyl gyda chymeriadau cryf, themâu heriol a neges bwysig.

A dyma be dwi newydd ei roi ar y wefan fel ‘adolygiad cwsmer’:

Arbennig! Chwip o nofel sy’n delio efo themau anodd fel effeithiau rhyfel, heneiddio a dementia ond mewn ffordd hyfryd, hynod o ddarllenadwy fydd yn apelio’n bendant at ddarllenwyr 10-14 oed (12 ydi oed y prif gymeriad) ond hefyd at bobl o bob oed sy’n mwynhau stori dda wedi ei deud yn dywyllodrus o syml.

Felly ydw, dwi’n meddwl y bydd hi’n apelio at blant h^yn na 11. Dwi hefyd yn meddwl y dylai mwy o bobl sgwennu adolygiadau ‘cwsmer’ ar wefan gwales.com. Chymrith hi ddim dau funud i chi!

Mi allai weld plant yn gwirioni efo arddull Manon yn hon. Dyma dudalen arall i chi:

fullsizerender-1

Galw rhywun yn gi rhech! Hyfryd. Ac mae ei gallu i greu tensiwn yn arbennig. Mi fyddai Gareth F Williams ei hun wrth ei fodd efo hon, ac roedd o’n giamstar ar wneud i chi ddeud “O – ooo!” yn uchel wrth ddarllen stori ysbryd.

Mae pob cymeriad yn taro deuddeg. Mi wnes i feddwl ar y dechrau bod nain 84 oed braidd yn hen i fachgen 12 oed, ond fy nheulu i sy’n fwy ifanc nag arfer erbyn meddwl. Mae fy chwaer 52 oed yn nain i ferch sy’n 9 oed, ac roedd Mam  yn nain pan oedd hi’n 44 oed, felly pan roedd Naomi, ei wyres hynaf yn 12, dim ond 56 oedd hi! (Dach chi’n gweld, dwi’n gallu gneud syms er gwaetha methu fy Lefel O Mathemateg) Ond mae’n debyg bod neiniau a theidiau yn eu 80au yn fwyfwy tebygol y dyddiau yma, gan fod cymaint mwy o bobl yn cael plant yn eu 30au a’u 40au.

O, ac mae’n debyg bod rhai pobl wedi drysu oherwydd tebygrwydd y teitl a’r clawr i gyfrol o straeon byrion gan Caryl Lewis:

getimg

Ond na, cyfrol ar gyfer oedolion ydi Plu, nofel i blant ydi Pluen. Iawn?

Prynwch hon, a mwynhewch! Ew, mae’n braf gweld nofel WREIDDIOL i blant yr oed yma… maen nhw wedi bod yn brin iawn eleni.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: