Ymgyrch #CaruDarllen / #LovetoRead

Published Hydref 31, 2016 by gwanas

Mae heddiw yn ran o ymgyrch #CaruDarllen / #LovetoRead – i ysbrydoli plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc i ddarllen er pleser a chreu sgwrs ar-lein am lyfrau.

Felly, os fedrwch chi rannu ‘selffi llyfr’ (hunlun o’ch hunain yn arddangos eich hoff lyfr) ar eich cyfrifon cymdeithasol (Twitter / Instagram / Facebook) HEDDIW – Hydref 31ain, gan gynnwys y hasnodau #LovetoRead  +  #CaruDarllen, fysa hynny’n wych!

Dyma f’un i:

cwgeuwexeaas6ds

Llyfr sy’n rhestru hen ddywediadau difyr a straeon hyfryd sydd mewn peryg o fynd ar goll – neu mi roedden nhw nes i’r llyfr yma gael ei gyhoeddi.e.e: ‘fel asgwrn Pharo’ am rywbeth caled, ‘begegyr’ am y swn mae ffrwd neu nant ar fynydd yn ei wneud, ‘ci stryd’ am rywun sydd byth adre – mae ‘na berlau yma!

A dyma hoff lyfrau Lisa Jên, Catrin Beard ac Iwan Roberts:

Ond hefyd, ar gyfer pobl ifanc (ac yn Saesneg fel mae’n digwydd) dwi’n mwynhau hwn yn arw ar hyn o bryd:

9781447264101The Lie Tree.jpg

Mae’r trefnwyr hefyd yn gofyn hyn: I sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y gynulleidfa fwyaf posib, a fedrwch chi hefyd annog eich ffrindiau i gymryd rhan yn yr ymgyrch, drwy ysgrifennu, e.e. “Dyma fy hoff lyfr, @JoeBloggs beth yw dy un di?”.

Edrych mlaen i weld be fydd dewisiadau pawb!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: