Llyfrgell mewn blwch ffôn – a Roald Dahl

Published Medi 13, 2016 by gwanas

431428_509338602424905_1887898818_n.jpg

 

Syniad hollol wych ar Facebook ydi hwn: pan dach chi’n cymryd llyfr, rydach chi’n rhoi un arall yn ei le. Ffordd hyfryd o roi bywyd newydd i’n hen flychau coch, a’n llyfrau yr un pryd. Mi fydda i’n pasio un bron bob bore ar fy meic ( ar y ffordd gefn i Lanfachreth o Rydymain) a dwi eisoes wedi hel chydig o lyfrau i’w rhoi yno bore fory. Does ‘na’m silffoedd del fel rhain yno ond mae ‘na saer coed yn byw rownd y gornel i’r ciosg…a boi wedi ymddeol sy’n chwip  foi efo morthwl yn byw i lawr y rhiw ( dyna be dan ni’n ddeud am ‘allt’ yn y parthau hyn…).

Mi wnai adael i chi wybod sut eith hi! Dwi am roi llyfrau plant yno hefyd.

Sôn am rheiny, dwi ar ganol un gwych yn Saesneg rwan: Time Travelling with a Hamster gan Ross Welford.

51ced8ru8nl-_sx324_bo1204203200_

Dwi’n cael trafferth ei roi i lawr! A dwi’n gwybod y bydda i’n crio cyn y diwedd. Dwi wedi chwerthin gryn dipyn hyd yma ond mae gen i deimlad ym mêr fy esgyrn… gawn ni weld. Mae’n sicr yn o’r llyfrau prin ‘na sy’n gweithio ar gyfer plant ac oedolion.

Ie, llyfr Saesneg, ond ro’n i jest isio rhoi sylw i awdur plant ar wahân i Roald Dahl heddiw…

14359229_10154534714034777_1822123112638276331_n

Ydi, mae ei lyfrau o’n arbennig o dda – ond nid yn plesio pawb – mae hynny’n amhosib – mae pawb yn hoffi pethau gwahanol tydyn? Ac ydi, mae o’n haeddu sylw, ond dydi o rioed wedi stopio cael sylw nacdi?

Dyna pam wnes i ddweud y pethau wnes i eu dweud ar Radio Cymru neithiwr ar Dan yr Wyneb http://www.bbc.co.uk/programmes/b07v811y

a bore ‘ma ar Taro’r Post: http://www.bbc.co.uk/programmes/b07tllwh

Ond i ateb y cwestiwn: be ydi dy hoff lyfr Dahl? Charlie and the Chocolate Factory, yn bendant.images

Y clawr ar y chwith oedd gynnon ni.

A dwi ddim yn erbyn Dahl o bell ffordd! Newydd neud gweithdy sgwennu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn defnyddio’r BFG fel ysbrydoliaeth, a dyma lun neu ddau:

image-7

image-2

Do, gawson ni goblyn o hwyl, felly diolch Roald Dahl – a’r Roald Dahl Foundation sy’n ariannu llawer iawn o’r gweithgareddau dathlu ‘ma.

Mae ‘na fwy o lyfrau gwreiddiol i blant bach gan Y Lolfa erbyn hyn gyda llaw:

Dau lyfr newydd sbon yng nghyfres boblogaidd Cyfres am Dro, sy’n rhan o gynllun darllen Darllen mewn Dim ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen:

sitemgr_photo_19014

9781784612795_large

 Llyfrau ffeithiol  am fyd natur ydyn nhw, gan Angharad Tomos. Hi sydd wedi gwneud y lluniau o gymeriadau Gwlad y Rwla hefyd. Yn Ar y Traeth mae modd dysgu am y llanw a thrai, am y creaduriaid, yr anifeiliaid mawr a bach, a’r planhigion sy’n byw ar lan y môr. Yn Dydd a Nos mae Rwdlan a’r Dewin Dwl yn mynd ar daith drwy’r dydd a’r nos gan ddysgu am ddiwrnodau, yr haul a’r lleuad, y sêr a’r planedau.

Hyfryd.

 

Advertisements

3 comments on “Llyfrgell mewn blwch ffôn – a Roald Dahl

  • Ro’n i’n cytuno gyda llawer oeddech chi’n ddweud at y pwt o Dan y Wyneb a glywais yn y car at y ffordd i’m dosbarth Cymraeg. Mae RD yn sicr yn cael ei siar o’r sylw. Da ydy’r llyfrau Cyfres Am Dro a diolch am dynnu fy sylw at un Y Traeth, dwi’n meddwl bod y gweddill gennym.

  • Helo – Pam bo nhw yn hysbysebu ultimate plunge wonderbra ar dy flog?!! Di gwneud i fi chwerthin bore ma! A meddwl tybed ddylwn i brynu un? ???!!
    Gyda llaw – wedi trio anfon cwpwl o bethe i ti yn ddiweddar ar dy e-bost ond yn dod yn ôl bob tro – be di dy gyfeiriad cywir dywed? Mari (G’hefin) xx

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: