Syniadau ar gyfer athrawon a llyfrgelloedd

Published Medi 9, 2016 by gwanas

_83370466_img_3389

Mi fues i’n trafod llyfrau plant ar y radio eto heddiw – recordio rhaglen Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth a Siwan Rosser (darlledu am 18.00 ar nos Lun dwi’n meddwl).

cr7gij-wgaakjkl

(Stiwdio fach Penrhyndeudraeth ydi fanna)

Roald Dahl oedd dan sylw a finnau’n diolch yn fawr am y pres dwi’n ei gael drwy’r Roald Dahl Foundation am greu gweithdai sgwennu ac ati ond yn cwyno (fel arfer – yr un hen stori…) am y diffyg sylw i awduron eraill Cymraeg yng Nghymru. Roedd hi’n sgwrs ddigon difyr. Ond ro’n i wedi bwriadu sôn am yr angen i ofalu bod pob athro Cymraeg sy’n gwneud cwrs ymarfer dysgu o hyn ymlaen yn sylweddoli pa mor bwysig ydi hi iddyn NHW ddarllen llyfrau plant hefyd. AC NID DIM OND ADDASIADAU!

gift-books

Sut fedran nhw argymell llyfrau i’w disgyblion os nad ydyn nhw’n darllen llyfrau plant eu hunain? Ond ar y llaw arall, dwi’m isio iddo fod yn orfodol – dwi isio iddyn nhw eu darllen am ei fod yn bleser – fel i’r plant. Sefyllfa anodd tydi? Ond naci, ga drapia, mae athrawon cynradd yn gorfod cadw ar dop eu gêm efo mathemateg a gwyddoniaeth, felly mi ddylen nhw neud yr un ymchwil ar gyfer darllen! Mae’r un peth yn wir am athrawon Cymraeg uwchradd. Mae pob athro isio bod yr athro gorau y medran nhw fod tydyn? Wel, mae darllen llyfrau plant yn mynd i neud byd o les felly tydi? Ac nid dim ond y llyfrau  sydd ar y cwriwclwm.

imagesimages-1

Dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn o athrawon a llyfrgellwyr sydd yn darllen y llyfrau ‘ma, diolch yn fawr, ond dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn sydd ddim.

images

A dach chi’n gwybod be fyddai o help i bawb? Rhestrau o lyfrau mewn categoriau ar gael yn hawdd ar rywle fel gwefan Gwales.com, fel sydd ar wefan lovereading – dyma linc i restr o lyfrau ar gyfer plant 9+

http://www.lovereading4kids.co.uk/genre/9/9-plus-readers.html

Grêt tydi? Plis fedar rhywun gyflogi rhywun i wneud pethau tebyg yn Gymraeg?

f4bc1d735d0237b36697342c50ba0d44.jpg7ff5d4aa32bf2413f5ae92b0723104c4.jpg

Ac mewn llyfrgelloedd, be am focsus/silffoedd lliwgar  yn arddangos teitlau ar thema?

Horse+Books.jpgimages.jpgfa0eabd1c69afe08bbe1fdae01dffe67.jpg

Pethau fel:

Llyfrau am bêl-droed/rygbi 6+. 8+, 12+

Unknowngetimg.phpimages-1getimg-4getimg-2

Nofelau am geffylau 6+, 8+, 12+

getimg-3getimg-2.jpg

Nofelau/straeon gyda chefndir amaethyddol/dinesig ( prinder rhai dinesig gyda llaw)(prinder rhai amaethyddol ar ôl 5 oed…)

getimggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg-1getimg.jpggetimg.jpggetimg-2.jpg

Nofelau am hoci, sombis, ysbrydion, y gofod, anifeiliaid, hud a lledrith ayyb ayyb

getimg.jpggetimg-3.jpggetimg-4.jpg

getimg-5.jpggetimg-3.jpggetimg-1.jpggetimg-3.jpggetimg-2.jpg

getimggetimg-4.jpggetimg-1.jpg

getimg-1.jpg

 

Mae ysgolion yn aml yn gwneud prosiectau ar rhyw bwnc neu gyfnod mewn hanes – meddyliwch defnyddiol fyddai rhestr/bocs/silff yn llawn llyfrau addas – yn y ddwy iaith os liciwch chi – ond yn sicr yn Gymraeg!

Oes y Tuduriaid, yr ymfudo i Batagonia, y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd – mae ‘na stwff addas ar gael! Bron i gyd gan Haf Llewelyn gyda llaw…

getimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpggetimg-1.jpggetimg.jpggetimg.jpg

Ia, dwi’n gwybod mai addasiad ydi Asterix, ond addasiad o’r Ffrangeg gwreiddiol, felly dwi’n maddau. A dwi’n addoli Asterix.

Be am gasgliad o gasgliadau o straeon byrion?

getimg.jpggetimg-3.jpg  getimg-1.jpggetimg.jpggetimg-1.jpggetimg-2.jpg

Be am lincs: “Os wnaethoch chi fwynhau hwnna, be am hwn?”

A sbiwch syniad da ydi hwn:

Image.jpg

Roedd hwnna drwy Twitter ‘Patron of reading’ – llwyth o syniadau yno bob amser. A dyna fi’n ôl at bwysigrwydd athrawon…ond gellid gwneud hyn mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau – bob man. Hoff lyfrau rhywun adnabyddus yn blentyn?

Y Prifathro?

images.jpg

Tudur Owen?

tudur-owen-2013-april.jpg

Ond doedd Tudur ddim yn darllen llawer yn blentyn…neu oedd o? Difyr fyddai gwybod be oedd yn apelio ynde?

Be amdani athrawon/llyfrgelloedd/siopau?

Advertisements

2 comments on “Syniadau ar gyfer athrawon a llyfrgelloedd

  • Cytuno’n llwyr! Mae’n bwysig bod athrawon yn gwybod am beth mae’r plant yn eu darllen. Mae yn ffordd o ddeall beth sydd at ddant y plant yn y dosbarth a hynnu’n dilyn at ffordd o gynhyrfu plant i ddysgu.
    Mewn ysgol ail iaith ydw i’n dysgu (yn anffodus!) Ond rydw i yn gwneud pwynt o ddarllen llyfr ‘plentyn’ bob yn ail a pob un oedolyn…ac a dweud y gwir ‘dw i’n mwynhau y rhai plant dipyn mwy na’r rhai oedolion gan fwyaf!
    ‘Dw i’n siwr fod nifer fawr o athrawon yn gwneud rhestrau o lyfrau fel rhan o’u themau o fewn yr ysgol, does ond angen rhywyn i holi a coladu’r rhestrau!

  • Cytuno Bethan. I ddweud y gwir, yn hytrach nag i fi argymell dwin gofyn ir plant, beth syn dda a beth syn newydd. Ac wedyn da ni creu wish list i Mrs P. A pheth arall darllen llyfrau plant a phobl yw beth sydd yn cadw ni fel athrawon yn teimlon ifanc. Maen creu cyswllt emosiynol drwy rhannu profiadau darllen. Dwi ddim mor gret ar greu arddangosfeydd mae lle yn issue. Ond mae ganddo ni linell amser darllen plentyndod ar y gweill …..

    Diolch i ti am rhannur holl lyfrau fan hyn ac ategu’r angen am ddarllen cyfoes. Dwi newydd creu arolwg o portead merched yn rhai llyfrau CA3 , a ches i pleser o’u darllen!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: