Ar gychwyn i’r Eisteddfod

Published Awst 3, 2016 by gwanas

O’r diwedd, mae’r fan wedi ei phacio

FullSizeRender

ac mae’r beic yn y cefn. Do’n i methu dod o hyd i’r teclyn cloi beics yn unlle felly es i i dre i brynu un newydd bore ma – a do, dwi newydd weld y llall yn hongian oddi ar y beic sydd ddim yn symud:

FullSizeRender

Blwmin typical. Dwi’n chwilio am y bali peth ers dyddiau!

Mi fydda i’n beicio i mewn o’r maes carafannau ( nid yr un swyddogol – un arall, rhyw 1.5 milltir o’r maes efo lle molchi hyfryd yr olwg)

blossompark05

oherwydd bod modd mynd reit at y fynedfa, achos mae gen i goesau clec sy’n sgrechian os fydd raid sefyll neu gerdded am hir, ond mae beicio’n champion. Wedyn, mi fydda i ar un o’r rhain:

-1

Ia, fi. A dwi wedi paratoi darnau bychain o bapur ar gyfer unrhyw un sy’n gofyn “Dow, be sy’n bod?” Achos mae’n stori hir. A dyma be gawn nhw:

Stori hir ond os ydach chi wir isio gwybod: cefais glun newydd Gorff llynedd, ond daeth allan. Anafwyd y ‘femoral nerve’ = llanast. Wedi 5 mis ar faglau, 6 mis heb yrru, mae’r teimlad yn dod yn ôl yn araf (iawn), y cyhyrau quad a VMO yn dechrau deffro a dwi’n gallu cerdded ond mae’n boenus ar ôl rhyw 5 munud o gerdded; sefyllian yn waeth. Grisiau yn anodd. Beicio yn iawn. A dyna pam mod i wedi llogi sgwter ar gyfer y deuddydd dwi yn y Steddfod. Ac wedi paratoi’r eglurhad hwn rhag diflasu pawb sy’n gofyn be ddigwyddodd, ac er mwyn gallu mynd o A i B heb ailadrodd yr un stori hyd at syrffed. Sori!

Ddeudis i ei bod hi’n stori hir yndo? Ond mi fydda i ar frys o hyd achos mae gen i sesiynau Coeden Cadi Iau a Gwener yn y Lolfa Lên a pharti Tylwyth Teg bnawn Gwener

aj261115 Dol book

(Evan Dobson dynnodd y llun yna gyda llaw – da ydi o ynde?)

A dwi ar banel yn trafod dylanwad Roald Dahl ar ein ysgrifennu fore Iau, ac mae gen i 2 weithdy sgwennu am gewri Iau a Gwener

hefyd –

images

A dwi isio gweld pawb a chrwydro’r stondinau a phrynu llyfrau! Dwi’n addo peidio a gyrru’n rhy gyflym na rhy wyllt. Mi fydd yn brofiad. Mi wnes i feddwl prynu siaced ledr

ee21a381ca9908ff0b32561a358c255b

er mwyn edrych yn llai…wel…hen. Ond mi wnes i fethu dod o hyd i un. O wel.

Iawn, y Fenni amdani.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: