The Search for Mister Lloyd

Published Gorffennaf 5, 2016 by gwanas

Dwi newydd orffen darllen enillydd y wobr Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na-nOg 2016: The Search for Mister Lloyd gan Griff Rowland.

The+Search+For+Mister+Lloyd

Nofel Saesneg, ie, ond hynod Gymreig, wedi ei gosod ym Mangor, gan awdur Cymraeg gafodd ei fagu yn ardal Bangor. A nofel wreiddiol, wedi ei chyhoeddi gan wasg newydd o Gaerdydd, felly nid addasiad o ryw nofel sydd ddim angen mwy o sylw ydi hi, a dyna pam dwi am roi sylw iddi ar y blog yma.

Mae ‘na reswm arall hefyd – mi wnes i ei mwynhau hi!

Photo on 05-07-2016 at 20.51

Nofel ar gyfer plant ac oedolion ifanc ydi hi, felly bosib y bydd hi’n rhy anodd i blant iau na 9 neu 10, yn dibynnu faint o ddarllenwyr ydyn nhw wrth gwrs. Mi ges i drafferth mynd mewn iddi ary dechrau, rhaid cyfadde, ond wedi blino gormod ro’n i dwi’n meddwl. Dwi mor falch mod i wedi dal ati achos mi gydiodd ynof fi go iawn ar ôl pennod neu ddwy. Neu dair.

Hanes hogyn 11 oed o’r enw Mostyn Price ydi hi; mae Mister Lloyd, ei golomen rasio, wedi methu dod adre ar ôl ei ras gyntaf erioed. Ydi o wedi cael ei ladd gan hebog? Ydi o wedi mynd ar goll? Mae Mostyn yn benderfynol o ddod o hyd iddo, ac yn chwilio bob sut, gan ddiweddu yn Llundain, ar ei ben ei hun, heb sylweddoli pa mor beryglus ydi hynny.

Mae ei dad wedi diflannu ers tro ac heb esboniad hefyd, ac mae’r stori honno o dan y wyneb yn ogystal.

Dyma i chi’r dudalen gyntaf:

tudalen

Mi gewch chi ddod i nabod teulu Mostyn, yn cynnwys ei daid (sy’n rasio colomennod – ac mi gewch chi eich synnu pa mor ddifyr ydi’r busnes gofalu am golomennod!); ei fam, sy’n rêl mam – mae’r sgwrsio rhwng y ddau yn swnio mor wir; heb anghofio Lowri, ei ‘ffrind’ o sy’n chydig bach o nytar. Licio hi. O, a Maldwyn, cariad newydd y fam. A llwyth o gymeriadau difyr eraill, heb sôn am golomennod.

Mae ‘na luniau bob hyn a hyn:

mister Lloyd

Dim byd ffansi fel y gwelwch chi, jest lluniau sy’n edrych a theimlo’n rai go iawn.

Dwi’m am ddeud mwy rhag ofn i mi ddifetha’r plot i chi. Ond mae Mister Lloyd a Mostyn wedi aros yn fy meddwl i am hir ar ôl gorffen darllen y llyfr. Darllenwch o – dwi isio gwybod be dach chi’n ei feddwl hefyd.

Dyma lun o’r awdur yn derbyn ei wobr:

rmYYekpe

Edrych wrth ei fodd tydi? Ac er mai cyfarwyddo rhaglenni teledu ydi ei waith arferol o, mae’n rhaid bod sgwennu yn ei waed o achos mae ei fam o, Beryl Stafford Williams, yn awdures hefyd. Mi enillodd hi Wobr Goffa Daniel Owen gyda  Mellt Yn Taro yn 1995, ac mae wedi cyhoeddi o leia 3 llyfr arall ers hynny, yn Gymraeg a Saesneg. Nid i blant chwaith.

Ond dwi’n meddwl y bydd Griff yn siwr o sgwennu mwy ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Gobeithio, o leia. Ac efallai y gneith o sgwennu un (neu dair) yn Gymraeg hefyd ryw dro? Mi fysa ‘na groeso mawr iddyn nhw.

Sôn am groeso, mi fues i’n siarad efo criw o ddarllenwyr yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar, a sbiwch be ges i’n bresant!FullSizeRender

Neis ynde? Ro’n i wedi gwirioni efo’r catwad/chytni cidne bîns yn arbennig!

SGWRS-BETHAN-GWANAS-300616+%285%29

Diolch, Dilys. A diolch hefyd i Richard am sgwennu blog mor glen amdana i fan hyn:

http://tafodteifi.blogspot.co.uk/2016/07/bore-gyda-bethan-gwanas-diwedd-blwyddyn.html

Mae ‘na lot o hwyl i’w gael yn trafod llyfrau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: