Ddeudis i yndo! ‘Gwalia’ gan Llyr Titus enillodd y categori uwchradd yng Ngwobrau Tir Na N-og eleni. Llongyfarchiadau!
Dwi’n dal ddim wedi darllen y ddau arall oedd ar y rhestr fer uwchradd, ond roedd ‘na raglen ddifyr am bob llyfr ar y rhestr ar ‘Heno’ nos Lun.
Dyma’r linc os na welsoch chi hi:
http://www.bbc.co.uk/programmes/p03vjj9y
Roedd hi’n gystadleuaeth dda, yn sicr. A llongyfarchiadau i Sian Lewis a Valériane Leblond, enillwyr y categori cynradd, am eu cyfrol ‘Pedair Cainc y Mabinogi’.
Mi wnaethon nhw guro fy llyfr i a Janet Samuel: ‘Coeden Cadi’, ond roedden ni, y rhai na enillodd, â syniad golew nad oedden ni wedi ennill ers tro…os nad ydech chi wedi clywed dim erbyn rhyw wythnos cyn Steddfod yr Urdd, dyna ni, dach chi’n gwybod eich bod chi wedi colli – eto! Na, dwi’m yn ddig o gwbl – ro’n i’n amau’n gryf mai’r gyfrol hon fyddai’n mynd â hi. Mae’n un dda, yn dangos ôl gwaith mawr.
Roedd safon y lluniau eleni yn ardderchog, ac os fyddwch chi’n prynu Golwg heddiw, mae ‘na erthygl am y 4 darlunydd oedd ar y rhestr fer:
Ac wythnos nesa, mi fydd ‘na erthygl am Gordon. Dwi’n deud dim mwy, ond mae Gordon yn dipyn o foi.
Cofiwch roi gwybod am unrhyw lyfrau Cymraeg ( gwreiddiol!) sy’n eich plesio – neu beidio.
Rhywbeth da allan ar gyfer Steddfod yr Urdd? Dwi’m wedi gallu mynd. Bw hw. Poen/arthritis/nerf femoral/dim mynedd egluro’r stori dragwyddol… mi wnai sgwennu nofel am arthritis a methu cerdded rhyw dro!