Gwyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd

Published Ebrill 25, 2016 by gwanas

Mi es i lawr ar y trên i Gaerdydd a mwynhau bob eiliad o’r teithio ac o’r wyl!

Ro’n i yn y Castell ar fore braf, heulog.

images

Lle difyr – a mwy o wybodaeth am y lle fan hyn:

http://www.castell-caerdydd.com

Ond i lawr mewn stafell dywyll ond hynod glyd ro’n i:

CgtvXG2W4AAc6Y7

Lle roedd y clustogau yn cyd-fynd yn berffaith efo’r llyfr dan sylw!

CgtwctDUcAAa4l3

Mi ges i griw da, hwyliog a bywiog, wrandawodd yn astud arna i’n darllen, chwarae teg!

Doedd yr oedolion ddim yn rhy ddrwg chwaith…

Yn y gwesty lle ro’n i’n aros, roedd ‘na doilies bach papur fel hwn ar gyfer y gwydr yfed wrth y sinc:

591214

Mi wnes i ofyn am fwy gan un o’r staff glanhau a gyda chymorth fy siswrn torri gwinedd, mi wnes i dorri plu eira, yn union fel mae Cadi’n ei wneud yn y llyfr – ac ar gerdyn Nadolig y Lolfa llynedd ( cliciwch isod er mwyn ei weld):

Carden Nadolig 2016 Y Lolfa crop

Unknown

Doedd y canlyniad ddim cweit fel hyn, ond digon agos! Cafodd y plant fynd â’r doilies adre i wneud eu plu eira eu hunain ( methu rhoi fy siswrn iddyn nhw ar y pryd – iechyd a diogelwch ac ati…)

Ro’n i i fod i gyfarfod Mari Lovgreen wedyn ond roedd hi’n sownd mewn traffic… dylai fod wedi teithio ar y trên fel fi! A naddo, wnes i’m llwyddo i gael paned efo Jacqueline Wilson na’i chlywed yn siarad ond roedd y ddinas yn llawn o blant a phobl oedd yn caru darllen (a phêl-droed) ac mi ges i ginio neis iawn yn yr Hen Lyfrgell cyn dal y trên adre a llwyddo i orffen llyfr cyfan cyn cyrraedd Machynlleth. Sef Never Cry Wolf gan Farley Mowat:

Unknown-1

Llyfr gwych! Stori go iawn ( fwy neu lai) am ddyn yn astudio bleiddiaid yr Arctig yng ngogledd Canada yn 1958. Chwip o lyfr i Mam/Dad/ Nain/Taid/Yncl/Anti – neu unrhyw un sy’n hoffi bleiddiaid a stori dda. Mi sgwennodd yr awdur lyfrau ffuglen i blant hefyd a dwi newydd archebu 3 o’r llyfrgell. Mi wnai adael i chi wybod be fydda i’n ei feddwl ohonyn nhw.

O, ac un llun arall o’r castell: y plant wedi prynu llyfrau ac yn disgwyl i mi eu harwyddo:

CguDPC-WkAAc0ce

Do, mi wnes i fwynhau yn arw. Diolch i bawb fu’n gyfrifol am drefnu gwyl mor ddifyr!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: