Llyfrau plant o bob oed

Published Tachwedd 28, 2015 by gwanas

Mae hi wedi bod fel ffair yma, ac yn dal i fod, ond dwi am drio rhoi sylw i hynny alla i o lyfrau Cymraeg GWREIDDIOL i blant cyn y Nadolig.

Un o fy ffefrynnau ydi hwn:getimg.php Ia, plant sydd wedi sgwennu’r straeon yma, a phwy sy’n gwybod yn well na phlant be mae plant yn ei hoffi? Enillwyr cystadleuaeth gan Radio Cymru llynedd ydyn nhw, ac mae pob un yn cael sylw fel hyn:

FullSizeRender-8

Wedyn mae’r straeon yn dilyn, fel hyn:

FullSizeRender-7

Ac ew, straeon da ydyn nhw, bob un. Nofelwyr y dyfodol, yn bendant! A gesiwch be – am fod cystadleuaeth llynedd wedi bod mor llwyddiannus, maen nhw wedi penderfynu cynnal un arall eleni, efo’r un beirniaid: Anni Llŷn, Bedwyr Rees a fi. A dwi’n meddwl mai Rhagfyr 11 ydi’r dyddiad cau ar gyfer eu gyrru i BBC Bangor. Dwi’n edrych mlaen yn arw at gael ffraeo efo fy nghyd-feirniaid eto!  Gwasg Carreg Gwalch sy’n cyhoeddi – pris £5.99.

Mae Meleri Wyn James newydd fod ar daith o gwmpas ysgolion efo’i llyfrau hynod boblogaidd Na, Nel, ac os dach chi isio llyfryn bach difyr i’r hosan, be am hwn? Na, Nel!: Ho, Ho!

getimg.php

Mae o’n lliwgar ac yn llawn direidi a syniadau difyr am bethau i’w gwneud adeg y Nadolig. Bargen am £2.99

O, ac mae na ddarn bach difyr gan ferched Meleri yn Golwg yr wythnos yma.

A sôn am Golwg – dyna i chi un rheswm pam mod i wedi bod yn rhy brysur i flogio: dwi’n gweithio iddyn nhw’n rhan amser dros gyfnod mamolaeth. Ac wythnos nesa ynde…mi fydd ‘na dudalennau hyfryd, lliwgar, difyr am lyfrau plant a barn plant am lyfrau! Mi fydd ‘na sylw i hwn:

getimg.php

“Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi” yn ôl Llinos Griffin ar gwales.com

A hwn gan Mari Lovgreen: Unknown-1

Merch fach daclus iawn ydi Anni Wyn, pob blewyn yn ei le bob amser, ac mae hi wedi cael hen ddigon ar fyw gyda’i rhieni bler, anrhefnus…ond…!

 

A hwn:nefoedd_yr_adar

Mae un aderyn bach yn y goedwig yn penderfynu creu band, ond tybed a fydd y criw yn cael llwyddiant wrth gystadlu yn eisteddfod y goedwig?

A tybed be fydd barn plant Ysgol Morswyn, Caergybi, ac Ysgol Bro Ingli, Trefdraeth o’r llyfrau?

Un peth alla i ddeud wrthach chi ydi bod Cyfres Lolipop yn boblogaidd IAWN – ac mae isio mwy! A mwy o sylw iddyn nhw, yn lle’r pethau “Addas.” ‘ma.

A does gen i ddim cywilydd yn rhoi sylw i fy llyfr fy hun chwaith – dyma fo!

Coeden Cadi - Bethan Gwanas

Dwi wedi gwirioni efo fo, rhaid cyfadde. Clawr caled hefyd – ieee! Dwi rioed wedi cyhoeddi llyfr efo clawr caled o’r blaen. A dwi’n meddwl bod Janet Samuel yn un o’r arlunwyr gorau yn y byd ar gyfer plant bach. Mae hyd yn oed ei madarch hi’n gorjys!Photo on 28-11-2015 at 13.43

Mi wnaethon ni ei lawnsio yn Gorwelion, y Bala wythnos dwytha, a dyma i chi rai o’r criw:aj261115 Dol book

Y Cadi go iawn wedi mynd i drafferth i wisgo fel y Cadi yn y llyfr, a’r Caio go iawn wedi gwisgo fel corach! Roedd Mabon yn sglaffio bisgedi ar y pryd a ddim isio tynnu ei lun…ond roedd o’n edrych fel hyn rai misoedd yn ôl. Llynedd o bosib!

DSC_0341

Ac os dach chi’n nabod bobl ifanc ( tipyn h^yn na’r rhain) sy’n hoffi llyfrau ffantasi, dyma i chi linc i flog difyr am lyfrau ffantasi, a’r tro yma am un i bobl ifanc gafodd ei gyhoeddi sbel yn ôl:

http://fideowyth.com/2015/11/25/clwb-llyfrau-f8-samhain/

Addo rhoi mwy o sylw i lyfrau plant cyn Dolig!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: