Llyfrau Nadolig plant bach

Published Tachwedd 7, 2015 by gwanas

Mi fydd ‘na fynydd o lyfrau i blant yn y siopau y Dolig yma. Pa un – naci – pa rai i’w dewis?! Allwch chi’m bodloni ar un, siwr. Waeth i chi brynu dau neu dri tra rydach chi yna.

Ond da chi, triwch ddewis y rhai gwreiddiol, er mwyn helpu’r diwydiant (a’r awduron) yng Nghymru. Os welwch chi ‘addas.’ neu ‘addasiad’ arno, nid un gwreiddiol mohono.

Dwi’n falch o ddeud mai gwreiddiol ydi’r ddau yma gan Wasg Gomer:
Unknown-1
Unknown-2

Mi fyddwn i wedi bod wrth fy modd efo Llyfr Mawr Sali Mali pan ro’n i’n iau, achos mae’n llawn posau bach difyr fel rhain:
FullSizeRender-2FullSizeRender-1

Ac os ydach chi’n hoffi arlunio fel fi, mae ‘na syniadau hyfryd fel sgwariau gwag ar gyfer bob diwrnod yr wythnos i chi gael dangos i Jaci Soch be fuoch chi’n ei wneud bob dydd. Mae ‘na ddigon o bethau i’w lliwio wrth gwrs, ond mae ‘na gryn dipyn o bosau bychain i wneud i rywun feddwl a gweithio pethau allan hefyd – a’r rheiny fyddwn i’n eu hoffi ers talwm.
Mae hwn wir yn anrheg bach hyfryd, yn glawr caled a jest y peth ar gyfer dyddiau gwlyb ac oer pan mae’r teledu a’r cyfrifiadur jest yn rhy ddiflas, diolch. O, a rhywbeth arall sy’n plesio ar y dechrau un:
FullSizeRender

Mae’r Prifardd Ceri Wyn Jones wedi bod yn brysur! Mi wnes i roi sylw i’r un rygbi’r tro dwetha, ond dyma un Nadoligaidd ganddo hefyd: Santa Corn.

FullSizeRender-3

Dyma stori fach hyfryd ar fydr ac odl am ddau blentyn bach sy’n methu cytuno ai Siôn Corn neu Santa Clôs yw enw’r dyn barfog â’r got goch sy’n dod ag anrhegion iddyn nhw bob Nadolig. Rhywbeth sy’n codi mewn sawl cartref, siwr gen i. A phwy sy’n gywir? Wel, byd raid i chi ddarllen y llyfr yn bydd!

Mae’r lluniau gan Andy Catling yn ddelfrydol ar gyfer llyfr o’r fath. Digri iawn, mi fydd y plant wrth eu bodd. Iaith y de wrth reswm, ond dim byd rhy anodd i Gogs bychain a’u teuluoedd.
FullSizeRender-4

Mwy i ddod, fesul tipyn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: