Cynnwrf eto!

Published Hydref 8, 2015 by gwanas

Wel, dwi newydd ddod dros y gêm yn erbyn Lloegr ( sori – esgus i ddangos y llun hwnnw eto)
photo 4
Ac mae’r gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn – PAN DWI AR GWRS YN ABERYSTWYTH! Grrrr…

A sôn am Awstralia, edrychwch, dwi newydd weld manylion fy nofel ddiweddaraf ar gyfer oedolion ar wefan Gwales; cliciwch ac fe ddaw’n glir:

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784611620&tsid=6#top

Waaaa! Dwi’n nerfus rwan. Hon ydi’r un sydd wedi bod yn boen ar fy enaid i ( a fy nghownt banc a fy mywyd yn gyffredinol) ers deng mlynedd.

Ond llyfr oedd yn bleser i’w sgwennu ydi hwn, sydd hefyd ar fin cael ei gyhoeddi ac ar wefan Gwales.com:

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784612252&tsid=3#top

A dwi mor falch bod llun o’r arlunydd gwych, Janet Samuel ar y cefn. Mae’n hen bryd iddyn nhw gael mwy o sylw! A dwi’n hoffi’r llun ohona i efo’r Cadi go iawn hefyd.

IMG_0044

Gwell i mi egluro gyda llaw, mae’r Cadi sy’n y llyfr yn ferch eitha drwg. Tydi Cadi ni ddim yn ddrwg o gwbl (bellach), ond mi ro’n i… felly mae’r cymeriad yn chydig o lob sgows, yn gymysgedd o Cadi a fi pan ro’n i ei hoed hi. Wel, tua 5 eu 6.

Mi fydd Coeden Cadi yn y siopau ddiwedd Hydref, ac I Botany Bay fis Tachwedd – rhyw ben. Cyn y Nadolig o leia!

O, cyn i mi fynd, diolch yn fawr i Ysgol Tirdeunaw am drydar y neges yma heddiw:

IMG_0045

Diolch am fwynhau Gwylliaid, Blwyddyn 4 Miss Owen!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: