Nofel Saesneg ar gyfer Oedolion

Published Gorffennaf 12, 2015 by gwanas

Dwi’n ôl o’r ysbyty efo clun newydd:
Unknown-1
a phâr o faglau:
Unknown-2

Neu ‘my bagels’ fel y dywedodd rhywun Cymraeg wrth gyfeillion Saesneg yn ddiweddar.

images-1

A dwi’n gwella’n syndod o gyflym diolch yn fawr.

Tra yn yr ysbyty, mi ddarllenais i gryn dipyn, ac un o’r llyfrau yn fy mag oedd ‘Stoner’ gan John Williams:

Unknown-3

Sgwrs ar Facebook oedd wedi tynnu fy sylw ato, felly mi brynais gopi a’i gadw’n arbennig ar gyfer fy nghyfnod yn gaeth i’r gwely. Waw, am lyfr!

Nid yn unig mae o wedi ei sgwennu’n hyfryd, bron yn hypnotig o gynnil, ond mae’n nofel sy’n aros efo chi am hir. Mi fydd pob darllenydd yn gweld ei neges ei hun ynddi, ond i mi, mae’n nofel am beidio a chael dy siomi mewn bywyd, bod ‘bod’ y person wyt ti yn ddigon, mai’r pethau bychain sy’n bwysig. Mewn ffordd, mae’n nofel i rywun fy oedran i ( 50 + “was that it?!”) ond mi ddylai apelio at unrhyw un o unrhyw oedran sy’n gwerthfawrogi llyfr da. Dydi o ddim yn un i ruthro drwyddo.

Mae ‘na ambell ddarn wnaeth i mi wingo go iawn. Perthynas Stoner a’i ferch. Perthynas Stoner a’i wraig. Perthynas Stoner a’i rieni/ambell fyfyriwr/cyd-ddarlithydd – ond mae yma rannau eraill roddodd wên ar fy wyneb oedd yn gwrthod mynd am hir. Darllenwch o!

Dyma i chi ddyfyniad neu ddau:

“Sometimes, immersed in his books, there would come to him the awareness of all that he did not know, of all that he had not read; and the serenity for which he labored was shattered as he realized the little time he had in life to read so much, to learn what he had to know.”

“In his forty-third year William Stoner learned what others, much younger, had learned before him: that the person one loves at first is not the person one loves at last, and that love is not an end but a process through which one person attempts to know another.”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: