Sialens Ddarllen yr Haf

Published Gorffennaf 7, 2015 by gwanas

Wel, mae hi bron yn wyliau’r haf – dim ysgol am OEEEES!

images

Ac os ydach chi isio syniadau ac ysgogiad i ddarllen, be am Sialens Llyfrgelloedd Gwynedd? Y cyfan sydd angen ei wneud ydi darllen o leia chwe llyfr o’ch dewis chi gan gasglu sticeri a gwobrau bach wrth fynd, ac mi fyddwch chi’n derbyn poster lliwgar a thystysgrif a medal os fyddwch chi’n llwyddo i gwblhau’r sialens. Dwi’n eitha siwr bod rhywbeth tebyg yn digwydd ym mhob sir ac ym mhob llyfrgell yng Nghymru, ond manylion yr un yng Ngwynedd sy gen i. Roedd o’n hynod boblogaidd llynedd achos mi gymerodd 2,932 o blant ran ynddo fo! A dim ond yng Ngwynedd oedd hynna gyda llaw.

Bydd sialens Gwynedd yn cael ei lansio’n swyddogol gan y cyn-bêl droediwr rhyngwladol, Malcolm Allen yn Llyfrgell Caernarfon ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf am 10.30am.
Unknown

Bydd gweithgareddau i blant ymlaen tan 1.30pm, yn cynnwys sialens gwneud gwaith celf gyda dwy artist leol, gweithgareddau a chwaraeon yn ogystal a pheintio wynebau.

Dyma be mae llyfrgell Caernarfon yn edrych fel o’r tu allan os nad ydach chi wedi bod yno o’r blaen:

Unknown-1

Mae’r gweithgareddau i gyd ar gael yn rhad ac am ddim felly bachwch ar y cyfle i gychwyn eich Sialens Ddarllen Haf ac i ddarganfod stôr o lyfrau a straeon difyr a chyffrous.

O ia, eleni, mae ‘na thema: y Guinness World Records™, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni.
Felly yn ystod y bore bydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd yn cymryd rhan yn Yr Addewid Darllen, sef ymgais gan Lyfrgelloedd a’r Reading Agency i osod record yr addewidion mwyaf a gafwyd ar gyfer ymgyrch ddarllen ac i gael eu cynnwys yn y Guinness World Records. Felly dewch yn llu i wneud eich addewid darllen!
Unknown-2

Y cyntaf i’r felin sydd piau hi o ran y sialens felly gwnewch yn saff eich bod yn cyrraedd yn fuan er mwyn cofrestru. Ond mi allwch chi gofrestru ar gyfer her yr haf mewn unryw lyfrgell, dwi’n siwr. Bydd yr her ymlaen tan 5 Medi.

Pob lwc a mwynhewch! Mi fyswn i’n mynd i Gaernarfon fy hun ( rioed wedi cyfarfod Malcom Allen!) ond dwi’n mynd i’r sbyty pnawn ma ac yn cael clun newydd fory ryw ben…
Unknown-1

ydw, dwi wedi pacio digon o stwff darllen!

socsi.in/darllen_QTWzf

Advertisements

2 comments on “Sialens Ddarllen yr Haf

  • Mae’r Sialens Ddarllen Haf ar gael ym mhob llyfrgell yng Nghymru cofiwch (42,000 o blant wedi cymryd rhan llynedd) – ac fe fydd digwyddiad Addewid er mwyn gosod y Record Byd newydd hefyd yn Llyfrgell Rhuthun fory Sadwrn yma Gorffennaf 11 rhwng 10 1 12! Dewch yn eich cannoedd! Diolch am y sylw Bethan – a phob lwc hefo’r llaw driniaeth!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: