Os dach chi’n caru cŵn.

Published Mai 9, 2015 by gwanas

Llyfr ar gyfer oedolion ydi hwn:
racing-in-the-rain-book-cover-1

The Art Of Racing in the Rain gan Garth Stein. Ond mae ‘na fersiwn byrrach i blant: Racing in the Rain, my life as a dog.
Unknown

Mairwen wnaeth ei argymell i mi ar y blog yma pan wnes i ddigwydd deud bod gen i awydd sgwennu nofel o safbwynt ci ryw dro. Diolch Mairwen – dwi wedi ei fwynhau’n arw, ac wedi crio cymaint, roedd hi’n anodd gweld y geiriau!
Ond mi fydd raid i mi feddwl am ffordd gwbl wahanol o sgwennu fy nofel i rwan – a meddwl am gi cwbl wahanol, a stori cwbl wahanol, neu mi fydd pawb yn meddwl mai copio hwn fydda i!

Ia, hanes ci arbennig ydi hwn, Enzo, ci doeth tu hwnt, sy’n llawn dywediadau fel:

“There is no dishonour in losing the race … only dishonour in not racing because you are afraid to lose.”

“To finish first, you must first finish.”

Nid llyfr sopi, sentimental mo hwn o bell ffordd. Rasio ceir ydi’r thema; rasio ceir ydi byd Denny, perchennog Enzo, a Senna ydi ei arwr. Mae o’n dalentog, fel Senna, ond dydi lwc ddim o’i blaid; mae ganddo deulu i’w cynnal a gwraig sy’n sal. Ond dwi ddim am ddweud mwy am y plot na hynna.

Bydd pawb sy’n caru cŵn yn mwynhau hwn, ond pobl sy’n hoffi ceir a rasio hefyd.
Mwynhewch, a gadewch i mi wybod be oeddech chi’n ei feddwl. Peidiwch ag aros nes i’r ffilm ddod allan! Oes, mae ‘na ffilm ar y ffordd mae’n debyg. Ond fydd o’m cystal, wrth reswm.

Advertisements

2 comments on “Os dach chi’n caru cŵn.

  • Falch iawn ei fod wedi plesio, ac yn falch i weld bod fersiwn i blant ar gael hefyd. Syniad da y byddai modd ei efelychu yn achos ambell nofel Gymraeg efallai?

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: