Haul ac adolygiadau plant

Published Ebrill 16, 2015 by gwanas

images-2

Mae’r haul allan a dwi wedi bod ar y beic efo Del.

KIF_2611_1

( dwi isio sgwennu nofel o safbwynt ci ryw dro…)

Ro’n i’n dathlu am mod i wedi rhoi’r stori Botany Bay i gyd i lawr erbyn ugain munud i ddau echdoe – yn y bore.

Unknown-3

Dwi ddim wedi teipio ‘Y Diwedd’, achos dydi’r diweddglo ddim yn iawn eto ac mae gen i dipyn o waith ffidlan i’w wneud efo ambell linyn storiol, ambell gymeriad hefyd, ond mae’r stori i gyd yna. Nefi, mae’n ryddhad. Mi gai drefn ar fy nesg eto toc, a mynd a’r mynydd o lyfrau ffeithiol am longau a ‘convict women’ ac ati ac ati yn ôl ar y silffoedd neu i’r llyfrgell.

images-2

Ond dwi ddim wedi gorffen! O, nacdw, ond o leia dwi’n teimlo’n ddiogel. Dwi’n gallu gweld y lan ac mae’r storm wedi cilio. Ffiw.

A dwi newydd gael galwad ffôn gan ddynes hyfryd hyfryd o’r swyddfa dreth yn dweud nad ydyn nhw’n mynd i fy nghosbi i am fethu gwneud syms wedi’r cwbl.

images-2

A dwi wedi cael llythyr yn y post efo copi o bapur bro hollol wych – Barn y Buarth.
photo pennawd

Cliciwch ar y lluniau i’w gwneud yn fwy.

photo 1

Plant sy’n ei sgwennu a’i argraffu o mae’n debyg: Sofia, Steffan ac Elinor o Aberystwyth. O rywle o’r enw Heol y Buarth, dwi’m yn amau…
Dyma’r 5ed rhifyn ac mae o’n hyfryd!

Ro’n i’n hoffi’r gystadleuaeth gerdd gocos yn arw:
photo cerdd

Da ynde?

Ond yn fwy na dim, ro’n i’n hoffi’r adolygiad hwn o ‘Llwyth.’
Unknown-9
photo 2photo 3

Dyna’r adolygiad cynta i mi ei weld gan blant, a dwi’n hapus iawn, iawn efo fo.

Unknown
Mae o gymaint pwysicach na barn oedolyn, rhyw riant neu athro tydi? – Dwi’n hoffi clywed barn rheiny hefyd wrth reswm, ond barn y plant sydd bwysica o bell ffordd.
Mwy os gwelwch yn dda, a mwy o gylchgronau fel hyn gan blant!

Advertisements

2 comments on “Haul ac adolygiadau plant

  • Da iawn ti am gyrraedd y lan gyda’r nofel – edrych ymlaen yn fawr at ei darllen. Os wyt ti’n barod am brofiad reit ingol (pnd mae’n llyfr doniol iawn hefyd) dyma stori gan gi dw i newydd ei darllen: The Art of Racing in the Rain, Garth Stein. Mae’n wych.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: