Tawelwch. Dwi’n gweithio.

Published Ebrill 14, 2015 by gwanas

Jest nodyn sydyn i ddeud: naddo, dwi ddim wedi mynd ar fy ngwyliau na chael rhyw salwch sy’n golygu mod i methu blogio am lyfrau.
Dwi’n dal i ddarllen bob nos yn fy ngwely, ond yn tueddu i gysgu ar ôl tudalen achos

1.) Dwi ddim yn rhy hoff o’r llyfr ( un oedolion ydi o, nid un plant, wrth reswm).
2.) Dwi wedi blino achos:

Dwi bron iawn iawn a gorffen y bali blincin nofel dwi wedi bod yn gweithio arni ers ym… o, mae’n rhaid ei bod hi’n wyth mlynedd bellach. Gofynnwch i Lefi y Lolfa. Mi fydd o’n gwybod.

Nofel ar gyfer oedolion ydi hi, ond mi fydd yn iawn i bobl ifanc 15+ – yn fy marn i.

Am be mae hi? Wel, dyma ddau lun fel cliw ( cliciwch arnyn nhw i’w gwneud yn fwy):

images-1

Unknown-1

Ac un arall:
Unknown-2

Golygfa o Ddolgellau tua 1830 ydi hwnna, sef y cyfnod dwi wedi bod yn trio sgwennu amdano.

Dwi’n tynnu fy het i unrhyw un sydd wedi llwyddo i sgwennu unrhyw nofel hanesyddol lwyddiannus. Iechyd, mae’n waith caled. Ac mae sgwennu am gyfnod cyn Oes Fictoria yn anos fyth!

Iawn, nôl at y creu rwan. Ta ta.

Advertisements

One comment on “Tawelwch. Dwi’n gweithio.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: