Jôcs Jac y Jwc a Ti a dy Rygbi..!

Published Mawrth 17, 2015 by gwanas

Diolch yn fawr i Sioned Wyn Gwasg Gomer am yrru’r rhain i mi:

photo 1

Dau lyfr Cymraeg a Chymreig a GWREIDDIOL!

Mi fydd Llyfr Jôcs Jac y Jwc (£3.99) yn ffefryn efo unrhyw blentyn ifanc sy’n hoffi jôcs. A dwi’n hoffi’r ffaith bod ynddo jôcs am gymeriadau eraill byd Jac y Jwc a Sali Mali. Rhai fel hyn:

photo 3

Dwi’m yn siwr os ydi’r jôc am Santa Clôs yn gweithio – ai cyfieithiad o jôc Saesneg ydi o? Dydy’r rheiny ddim wastad yn gweithio, nacdyn? Ond mae’r gweddill yn gweithio’n dda, a gawn ni weld be fydd barn Caio ( sydd ddim yn darllen eto, ond mae’n un da am wrando – weithiau) a Cadi sy’n 7 oed. Mi wnai adael i chi wybod os wnaethon nhw chwerthin!

Y diweddara yng nghyfres hyfryd Lolipop ydi ‘Ti a dy Rygbi..!'(£4.99) a Sioned Lleinau sydd wedi sgwennu hwn.

Dyma’r broliant ar y cefn:
“O na! Ddim eto! Beth wyt ti wedi torri nawr ‘to?!” Mae Rhys yn ysu am gael ei ddewis i chwarae i dîm rygbi’r ysgol. Ond, er ymarfer ac ymarfer ei gicio, mae’r bêl yn dal i hedfan i bob cyfeiriad – heblaw’r cyfeiriad cywir. Trueni na fyddai ganddo ychydig bach o help…

Mae lluniau lliwgar Helen Flook ar bob tudalen, a dyma’r dudalen gynta:

photo 2

Hawdd iawn i’w ddarllen, digon o hiwmor ac yn siwr o apelio at blant 6-8/9 oed sy’n hoffi rygbi. Iaith y de ond ddim yn rhy anodd i Gogs! Un peth bach… ac efallai mai jest fi ydi o, ond dwi’n meddwl y byddai’n well heb y dudalen olaf un. Byddai gorffen efo tudalen 63 wedi gweithio’n well i mi. Be dach chi’n feddwl?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: