Sky Hawk, Gill Lewis

Published Tachwedd 22, 2014 by gwanas

Unknown-2

Mae’r llyfr yma newydd wneud i mi grio DDWYWAITH! Yn y canol, ac ar y diwedd, ond dwi ddim yn mynd i ddifetha’r stori i chi drwy ddeud pam. A pheidiwch a darllen yr adolygiad ar gwales.com achos mae’n deud be sy’n digwydd! Grrr…

Yn syml, mae o am hogyn, mae o am ferch – wel, dwy, ac mae o am aderyn – Gwalch y pysgod neu Osprey. Does dim rhaid i chi hoffi adar sglyfaethus a natur i fwynhau’r llyfr hyfryd yma, ond mi fyddwch chi â diddordeb go iawn ynddyn nhw ar ôl ei ddarllen.

Mae o am gyfeillgarwch hefyd, yr adegau da a’r adegau sy’n gwneud i chi wingo.

Llyfr wirioneddol hyfryd fydd yn anodd ei anghofio.
Mae’n hawdd ei ddarllen, yn syml ac yn brydferth, efo disgrifiadau y dylai pob awdur eu darllen yn ofalus. Fel’na mae disgrifio!

O, a dwi’n caru cymeriad Iona.

Mae ‘na gyfieithiad Cymraeg:

getimg-2

Ond dwi wastad isio darllen y fersiwn wreiddiol, sori.

Mi ddylai plant 10 oed + fwynhau hwn, a phlant 9 oed os ydyn nhw’n darllen yn well na’u hoed.
O, ac oedolion o bob oed, yn rieni, athrawon a jest pobl sy’n hoffi darllen.

Diolch am ei argymell i mi, Efa!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: