Dyddiadur Nel

Published Tachwedd 19, 2014 by gwanas

getimg.php

Gan fod Na, Nel! gan Meleri Wyn James wedi llwyddo cystal i fachu diddordeb plant rhwng 7 a 9 oed, mae’r straeon wedi cael eu hargraffu ETO ac hefyd wedi eu dewis i fod ymhlith y dewisiadau ar gyfer plant blynyddoedd 3-4 yn Darllen Dros Gymru, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru 2014-15.
image

Mae Meleri yn cyfaddef i’w phlant ei hun ei hysbrydoli wrth greu Nel, Cymraes ddireidus sy’n hoffi cael hwyl. A dwi wedi cyfarfod ei merched hi – ac wedi gweld y tebygrwydd yn syth!

Rwan, nid llyfr darllen mo’r dyddiadur – ond dyddiadur. Mae’r cliw yn yr enw… ac roedd Cadi, fy nith 7 oed i wrth ei bodd efo fo. Mae hi isio copi yn anrheg Nadolig! Un o’r gogledd ydi hi, ond mae ganddi deulu yn y de, sy’n siarad yr un iaith â Nel a doedd yr hwntw-eg yn poeni dim arni – roedd hi’n ei weld yn ddigri!

Dyddiadur arferol efo dyddiadau a lle i sgwennu ydi o, ond efo ambell beth bach difyr yma ac acw:

image

image

“Mae’r dyddiadur yn cyflwyno hanesion ac arferion Cymreig, yn yr un modd â straeon Na, Nel!,” meddai Meleri. “Mae’n llawn o hiwmor Nel ac mae yna jôcs a chartwnau a syniadau am bethau i blant eu gwneud. Mae digon o le i blant ysgrifennu am beth maen nhw wedi bod yn ei wneud hefyd. Dwi ddim yn meddwl bod yna ddim byd fel hyn yn y Gymraeg ar hyn o bryd.”

Yn bendant, nagoes. A dwi’n gwybod y byddwn i wedi bod wrth FY MODD efo dyddiadur Cymraeg fel hyn pan ro’n i’n 7-9 oed.
Presant Nadolig da iawn i ferch 7-9 oed ddeudwn i.

Ond mae angen un ar gyfer bechgyn rwan!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: