Llwyth ar Radio Cymru

Published Hydref 24, 2014 by gwanas

Unknown-9

Dwi’n edrych ymlaen mwya ofnadwy. Dyma’r tro cynta erioed i unrhyw un o fy llyfrau i fod ar y radio. Wel, os nad ydach chi’n cyfri darnau o Pen Dafad, Ceri Grafu neu Hi yw Fy Ffrind yn cael eu hadrodd yn y Steddfod.

Mi wnes i wir fwynhau ei addasu yn 5 darn o tua 10 munud yr un. Nid yn hawdd, ond yn ddifyr.

Mae’n bosib y bydd ambell frawddeg ychwanegol ( neu baragraff hyd yn oed…o dîar) wedi gorfod mynd yn ystod y golygu wedi’r perfformio, yn dibynnu faint o sylw roddodd yr actores Catrin Mara

Unknown-5

i’r atalnodi. Ond dwi’n gwybod y bydd hi wedi gwneud chwip o joban dda o’r actio! Mae hi’n dallt llyfrau, gan ei bod hi a Dyfrig Evans

Unknown-1

wedi gwneud ambell daith Hei Hogia ( sef perfformio llyfrau) dros y blynyddoedd.

Mi fydd y darnau i’w clywed am 10.50 ar raglen Shan Cothi, heblaw am y darn cynta ddydd Llun ( am fod na FWY o Dylan Thomas ar y radio…deud dim) pan fydd o yn gynharach, yn ystod rhaglen Dylan Jones, ond dwi’m yn siwr faint o’r gloch. Os gollwch chi o, mi allwch wrando eto ar y we.

Gobeithio y bydd rhywun yn gwrando ( er gwaetha’r ymchwil diweddara am niferoedd gwrando – pwy maen nhw’n eu holi a phryd ac yn lle dwch?) – ac y gwnewch chi fwynhau!

Advertisements

2 comments on “Llwyth ar Radio Cymru

    • Ddim yn siwr os ydi o’n dal ar iPlayer. Amau ei fod yn diflannu ar ôl 3 wythnos, ond mae’n rhaid ei fod yn dal yn y system yn rhywle.
      A diolch yn fawr iawn am fwynhau – a deud hynny! Mae’n golygu lot.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: