Cyfaill Darllen a Llyfrau am Anifeiliaid

Published Hydref 10, 2014 by gwanas

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Fues i yn Ysgol Bro Cinmeirch eto, ar fy ymweliad rheolaidd fel Cyfaill Darllen ( Patron of Reading). Pleser bob amser!
A’r tro yma, ro’n i wedi gosod cystadleuaeth, i bawb yn Bl 3,4,5 a 6 wneud lluniau o Rhys a Mari, prif gymeriadau Gwylliaid
image

A dyma i chi’r lluniau ro’n i’n eu hoffi fwya.

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Mi wnes i anghofio sgwennu’r manylion i lawr, ond dwi’n 99% siwr mai Cari enillodd, yr un ieuenga ohonyn nhw i gyd – yn Bl 3! Dwi’n arbennig o hoff o’r ci, a gwallt Mari. Do, mi gafodd wobr gen i – copi o Gwylliaid. Ro’n i wedi bwriadu sgwennu neges y tu mewn, ond aeth amser yn drech na ni am ryw reswm, felly os wnei di ddod a’r llyfr i’r ysgol efo ti y tro nesa, mi wnai sgwennu neges bryd hynny, Cari!

Trafod llyfrau am anifeiliaid fuon ni efo’r rhai h^yn, ac roedd sawl un wedi dod â llyfrau Michael Morpurgo efo nhw, oedd ddim yn sioc o gwbl; mae o’n sgwennu’n wych am anifeiliaid. Ond mi ges i sioc bod cymaint o lyfrau am ddreigiau! Roedd eu Cyfaill Darllen Saesneg, Shoo Rayner, newydd fod draw hefyd,ac roedd pawb yn canmol hwn:

Unknown-1

Roedd Efa wedi mwynhau “One dog and his boy” gan Eva Ibbotson ( yr un wnes i ei argymell)

Unknown-3

ond roedd hi’n canmol “Sky Hawk” gan Gill Lewis i’r cymylau.

Unknown-2

Felly dwi’n bendant am ddarllen hwnna rwan. Ac mae ‘na fersiwn Gymraeg:

getimg-2

Addasiad gan Elin Meek. Ond mynd am y gwreiddiol fydda i, a bod yn gwbl onest. Ydw, dwi’n un styfnig!

Advertisements

2 comments on “Cyfaill Darllen a Llyfrau am Anifeiliaid

  • Dwi dal ar y thema anifeiliaid, rydw i nawr yn darllen The Great Rabbit Rescue gan Katie Davies! Anna o blwydd 5 wnaeth argymell y llyfr yma imi.

  • Da iawn ti Efa – ac Anna. Dwi’n dal ar anifeiliaid hefyd ac yn darllen Soldier Dog gan Sam Angus, sydd i fod yn wych ond yn ofnadwy o drist. Neb wedi ei argymell i mi, dim ond ei weld mewn siop elusen wnes i!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: