Jac gan Guto Dafydd. Cyfres Pen Dafad

Published Gorffennaf 24, 2014 by gwanas

image

Yn ôl gwefan Gwales, dyma’r nofel olaf yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer darllenwyr 11-15 oed. Felly roedd angen gorffen efo bang, debyg!

Dyma’r disgrifiad ar y wefan : Mae Jac yn darganfod corff marw yn y twyni tywod ac yn benderfynol o fynd at wraidd y llofruddiaeth trwy helpu Jim, y ditectif. Nofel llawn antur, hiwmor ac erchylldra!

Ydw, dwi’n cytuno efo’r disgrifiad. Hen bryd i ni gael nofel antur arall, nofel lle mae’r prif gymeriad yn gwneud gwaith ditectif. Hen bryd cael golygfa awtopsi hefyd, ac mae’r bennod honno yn un o fy ffefrynnau! Fydd y bennod honno ddim at ddant pawb wrth reswm, ond mae hi’n realistig iawn, ac yn ddigri hefyd – mewn mannau.

I gael syniad o’r arddull, dyma’r dudalen gyntaf:
image

Clir, dim gwastraffu geiriau, a codi diddordeb y darllenydd yn syth.

Mae’r stori’n cael ei dweud yn gelfydd a dim gormod o gliwiau yn rhy fuan. Mae’r diweddglo yn un da hefyd, er, dwi’m yn hollol siwr o’r bennod olaf un, sy’n fath o epilog. Rhy fyr i mi. Ond mi fydd athrawon yn hapus gan fod digon o sgôp am drafod yn y dosbarth o’i herwydd.

A bod yn gwbl onest, roedd cymeriad Jac yn mynd ar fy nerfau i weithiau, ond siarad fel rhywun canol oed sy’n prysur droi yn hen ddynes flin ydw i ynde; gweld y bachgen yn ddigywilydd ro’n i ac yn haeddu llond pen. Ond mi fydd darllenwyr 11+ wrth eu bodd efo fo, siwr gen i.

Nofel gynta dda iawn, a blas mwy arni. Jest y peth tra dach chi’n aros am driniaeth yn y sbyty, fel ro’n i.

image

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: