Darllen dros Gymru

Published Gorffennaf 14, 2014 by gwanas

Dwi braidd yn hwyr yn eu llongyfarch ar y blog yma, ond gwell hwyr na hwyrach!

Dyma’r criw enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth flynyddol Cyngor Llyfrau Cymru: Darllen Dros Gymru: Ysgol Treganna, Caerdydd:

image

A dyma griw Ysgol Santes Tudful, Merthyr, ddaeth yn ail:

image

Ac yn drydydd drwy Gymru gyfan, Ysgol Abernant, Sir Gaerfyrddin:

image

Roedden nhw i gyd yn gorfod trafod un llyfr a pherfformio cyflwyniad o lyfr arall, ac ro’n i yno oherwydd mai fi oedd yng ngofal yr awr gawson nhw i ymlacio pan nad oedden nhw’n cystadlu. Mi wnes i fwynhau, bobol bach. Roedd hi’n bleser sgwrsio efo plant sy’n mwynhau llyfrau o bob math, ac yn hapus i ddweud eu barn yn onest ac yn ddifyr.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bob ysgol ddaeth i’r rownd genedlaethol. Ond plis, Cyngor Llyfrau, oes raid rhoi addasiaadau ar y rhestr o lyfrau gawn nhw eu dewis i’w cyflwyno?
Ydw, dwi’n gwybod, dwi fel nodwydd wedi sticio. Ond mae’n rhaid tynnu sylw at hyn, a dyna ni.

Braf fyddai gallu gweld y cyflwyniadau gorau ar ryw wefan neu’i gilydd hefyd, gwell fyth, ar y teledu. Be amdani, S4C?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: