Anji, nofel ar gyfer yr arddegau

Published Gorffennaf 3, 2014 by gwanas

Mae Gareth F Williams wedi ei gwneud hi eto. Mi wnes i fwynhau hon yn arw. Dim ond 90 tudalen ond pob gair yn haeddu ei le.

image

Un o 5 nofel Cyfres Copa ydi hon, wedi eu hanelu at yr arddegau hŷn, a dwi eisoes wedi rhoi sylw i Al, Llanast a Clec Amdani

image
Unknown-6
Unknown-3

Mae hon wedi ei gosod yn y 1960au, pan fyddai pobl yn dal i gael eu crogi fel cosb am lofruddiaeth.

Ar ddechrau haf 1961, aeth dwy ffrind ar eu gwyliau i’r Rhyl; roedd un yn cuddio cyfrinach a’r euogrwydd yn ei bwyta’n fyw.

Dyma i chi’r dudalen gyntaf:

image

Mi fydd stori Anji a’i hen jaden o fam yn eich cyffwrdd. Mae golygfeydd y ‘Mochyn Mawr’ yn arbennig o bwerus, ac fe ddylai hon gydio yn nychymyg yr arddegau ac oedolion. Fel gyda cymaint o lyfrau Gareth F, byddai’n gwneud ffilm wych hefyd.

Fy unig gwyn ydi bod blas nofel dewach arni, ac mi ges fy siomi fymryn gan y diweddglo, ond efallai oherwydd ei bod hi wedi gorffen yn rhy sydyn.

Bargen am £2.95.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: