Llyfrau am natur i blant bach

Published Mehefin 23, 2014 by gwanas

imageimageimageimage

Dyma i chi bedwar llyfr bach hyfryd o syml, Cymreig – a gwreiddiol am natur. Mae Cyfres Am Dro yn rhan o gynllun Darllen Mewn Dim gan Angharad Tomos ac yn defnyddio cymeriadau Gwlad y Rwla i helpu plant bach i ddysgu darllen a dysgu am natur yr un pryd.

image
Y pry glas ydi hwnna gyda llaw!

Maen nhw i gyd yn darlunio nodweddion o goed /adar ayyb gwahanol mewn iaith syml efo lluniau clir, ac yn defnyddio dyfyniadau o gerddi adnabyddus bob hyn a hyn:

image
image

Mi fydd plant bach wrth eu bodd efo’r rhain, ac am bris o £3.95 yr un, mi ddylai’r rhieni a’r ysgolion fod yn eitha hapus hefyd.

Mae na ddewis o enwau gogleddol/deheuol ar gyfer ambell beth, ond ro’n i’n synnu nad oedd ‘pry lludw’ yn ddewis ar gyfer y wrachen ludw/pry pren. Ond fi ydi honno.

Mae ‘na un camgymeriad yn y llyfr Creaduriaid Bach yn anffodus. Llun o nyth/cwch gwenyn meirch/cacwn/wasps sydd yn fan hyn, nid un gwenyn mêl… O wel! Mae gwaith addysgu oedolion hefyd; dwi wedi cael fy ngalw i weld haid o wenyn mêl fwy nag unwaith, dim ond i weld mai gwenyn o fath cwbl wahanol ydyn nhw bron bob tro.
image

Ond ar wahân i hynna, mae’r rhain yn hyfryd – ac yn WREIDDIOL! Adnoddau perffaith ar gyfer y Cyfnod Sylfaen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: