Cawl Bys, Siân Lewis

Published Mehefin 12, 2014 by gwanas

Image

Dyma i chi lyfr ar gyfer plant tua 7-9 oed sy’n newydd sbon. Wel, wedi ei gyhoeddi yn 2014 o leia. Ond does neb wedi ei adolygu yn swyddogol ar gwales.com eto, a neb wedi ychwanegu adolygiad cwsmer, sy’n drueni. Blant, wnewch chi sgwennu rhyw frawddeg bach ar y wefan pan fyddwch chi’n mwynhau llyfr – neu efallai ddim yn ei fwynhau? Mae angen llawer mwy o rannu gwybodaeth am lyfrau Cymraeg. Mae pawb arall yn ei wneud o, pam na fedrwn ni?!

Beth bynnag, dwi newydd orffen hwn heddiw ( esgus i eistedd yn yr haul) ac er nad ydw i’n 7-9 oed bellach, mi wnes i ei fwynhau o a dwi’n gwybod y byddwn i wedi ei fwynhau o’n arw pan ro’n i’n 7-9 oed. Mae o fymryn bach yn boncyrs, cofiwch, a dyma i chi rhyw fath o ddisgrifiad gan y cyhoeddwyr:

Image

Hm. Dydi hynna ddim cweit yn wir. Lluniau du a gwyn sydd drwy’r llyfr, nid rhai lliw! A dyma i chi flas ohonyn nhw ( gan yr arlunydd Helen Flook), a blas o’r cynnwys:

 

image
Y dechrau ydi hwnna, a dyma ran sydd yn nes ymlaen, sy’n egluro beth ydi’r swyn roddwyd ar Fel – y prif gymeriad.image
Os fyddwch chi wedi drysu efo’r enw ‘Fel’ ar y dechrau, peidiwch a phoeni, fe ddaw pob dim yn glir!
Os ydach chi’n hoffi llyfrau Roald Dahl, mi ddylech chi fwynhau hwn. Mae o wedi ei sgwennu’n dda, yn llawn hiwmor, ac yn hawdd ei ddarllen i bawb o bob rhan o Gymru. A, gesiwch be, os fyddwch chi’n hoffi hwn, mae na ddau arall i ddilyn. Hwn ydi’r cynta o drioleg!

Mae Siân Lewis wedi cyhoeddi nifer fawr o lyfrau, yn Gymraeg a Saesneg, a hi ydi ‘mam’ y dyfeisydd rhyfeddol hwnnw, Gwil Bril, deg oed, ac mae hi hefyd wedi sgwennu cyfres o lyfrau hanes gyda Gwasg Carreg Gwalch lle mae hi wedi edrych ar rhyw ddigwyddiad yn hanes Cymru o safbwynt plentyn oedd yn byw ar y pryd. Dwi ddim wedi gweld rheiny, ond maen nhw’n swnio’n ddifyr!image

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: