Llyfr i blant bach

Published Mehefin 11, 2014 by gwanas

Dwi wedi cael llond bocs o lyfrau i’w hadolygu gan Wasg Gomer! Mi a i drwyddyn nhw, dwi’n addo, ond dwi am ddechrau efo llyfr i blant bach: Bin Bwn a Ben y ci tri phen gan Caryl Parry Jones a Christian Phillips.
image
Er mwyn cael ymateb plant, es i a fo efo fi i weld plant bach fy nith, Leah. Roedd Cadi, sy’n 7 oed ac yn caru llyfrau
image
wedi gwirioni efo’r llyfr. Roedd hi wrth ei bodd efo’r syniad bod gan gi dri phen a thri personoliaeth gwahanol. Roedd hi’n rhowlio chwerthin fan hyn, pan roedd y tri eisiau bwyta pethau gwahanol:image
Ac yn nes ymlaen, yn mynd o gwmpas y ty yn canu ‘Afalau! Orenau! Bananas!’ Bydd raid i chi ddarllen y llyfr i wybod pam…
Roedd Caio, sy’n dair oed, ac yn rêl hogyn
image

sy’n hapusach yn chwarae efo’i dractors nac yn eistedd ar lin rhywun i gael stori, yn hoffi’r lluniau ond wnaeth o ddim aros o gwmpas yn ddigon hir i wrando ar y stori mae arna i ofn. Ond dwi’n eitha siwr y bydda i’n gallu ei hudo efo’r llyfr pan fydd o ar fin mynd i’w wely.
Un o 4 llyfr am greaduriaid gwahanol Parc y Bore Bach ydi hwn, ac mi wnes i ddewis y llyfr penodol hwn er mwyn ceisio bachu diddordeb Caio gan fod cloriau’r 3 arall fymryn bach yn fwy ‘merchetaidd’, môr-forwyn ac ati. Mi wnai sôn am rheiny eto, ond wir i chi, mae’r gyfres hon yn chwip o syniad da. Llyfrau gwreiddiol, Cymraeg! Weihei!
Mae’r lluniau gan Ali Lodge yn hyfryd hefyd, a dyma i chi’r ddwy dudalen gyntaf i gael blas:
image
Mae’n costio £4.99 ond mi gewch werth eich harian gan y bydd yn apelio at blant 7 oed fel Cadi yn ogystal â phlant sydd ddim eto’n gallu darllen eu hunain.
Prynwch fwy o lyfrau gwreiddiol yn hytrach nac addasiadau, ac mi fydd y gweisg a’r awduron yn gallu fforddio cyhoeddi mwy o rai gwreiddiol, Cymraeg.
O, a chofiwch roi eich barn ar wefan gwales.com er mwyn helpu plant, rhieni ac athrawon i ddod o hyd i lyfrau fydd yn plesio.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: