Clwb Darllen Tudur Owen

Published Mehefin 4, 2014 by gwanas

Mi fydd selogion ein clwb ni ar Radio Cymru yn gwybod bod y mis ers y clwb dwytha ar fin dod i ben, ac mai ddydd Gwener yma roedden ni i fod i drafod Lladd Duw, Dewi Prysor.
Unknown-7
Ond oherwydd amrywiol resymau, fyddwn ni ddim. Mae’r criw yn fy sicrhau eu bod nhw i gyd wedi darllen y nofel ac â digon i’w ddeud amdani, ond chawn ni ddim clywed eu sylwadau tan yr 20fed o Fehefin – pan fydd y criw (a finna) yn darlledu o Flaenau Ffestiniog, sef ardal Dewi.
Iawn? Ond mi fydd raid cadw at y dyddiadau gwreiddiol wedi hynny, felly dim ond pythefnos gawn nhw ( a chithau) i ddarllen y nofel nesa. Gwell felly eich rhybuddio mai hon fydd hi:
image
Dyn Pob Un gan Euron Griffith.
Dwi newydd ei gorffen hi neithiwr, ac wedi mwynhau’n arw.
Dyma ran o be ddeudodd Lyn Eb amdani ar gwales.com:
image

Mae hi’n hollol, gwbl wahanol i Lladd Duw. Mae angen amrywiaeth mewn clwb darllen wedi’r cwbl! O, a chofiwch roi gwybod be dach chi’n ei feddwl o Lladd Duw cyn/ar yr 20fed. Wedi gwirioni? Wedi methu ymdopi? Rhy drwchus? Wedi methu ei rhoi i lawr? Yr iaith yn rhy anodd? Y stori wedi dod a dagrau i’ch llygaid? Rydan ni isio gwybod!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: