Llyfrau Steddfod yr Urdd

Published Mai 30, 2014 by gwanas

O, ffiw! Wedi llwyddo i gyrraedd y blog yma eto o’r diwedd. Ges i ryw gremlins oedd yn fy rhwystro am ryw reswm. Panicio? Fi?!

Iawn, cymaint i’w ddeud. Yn gynta, cofio clawr Ceri Grafu?
Unknown

Wel, bnawn Llun, mi wnes i gyfarfod y ferch ar y clawr am y tro cynta rioed! Ffion, a dyma hi fel mae hi heddiw:image

Dydi hi’m yn gwisgo fel yna fel arfer, cofiwch. Roedd hi’n un o’r 3 wisgodd fel Gwylliaid ar gyfer ‘seremoni’ anffodus yn y pafiliwn ddydd Llun, pan roedd pawb i fod i weld a chlywed fidio am y llyfr:
image

Ond bu gremlins technegol… Bosib y bydd modd cynnwys y fidio hwnnw ar y blog yma rhyw dro, gawn ni weld – achos dwi’m wedi ei weld o eto!

Ta waeth, dwi wedi arwyddo sawl copi, a dyma’r cwsmer cyntaf, Gweltaz Davalan o Ddinas Mawddwy:
image
Ges i wybod heddiw ei fod o wedi’i orffen o’n barod! A do, mi nath o fwynhau. Dwi’n rhy wylaidd i ddeud mwy… 🙂

Mae’n debyg i seremoni Gwobr Tir na Nog fynd yn llawer gwell na f’un i, a llongyfarchiadau mawr i Haf a Gareth F! Dau enillydd teilwng iawn, iawn, a dyma’r llyfrau enillodd y wobr iddyn nhw:
image
image

Dwi wedi darllen un Haf, a mwynhau’n arw, ond eto i weld un Gareth. Mi wnai, ond dwi’m isio i’r blog yma fynd yn ormod o GarethFest! Welsoch chi be wnes i fanna? Gareth (F)est? Ia, ocê, braidd yn amlwg ma siwr.

Llongyfarchiadau hefyd i Llio Maddocks am ennill y Goron!
image
Edrych ymlaen at ddarllen nofel ganddi o fewn y blynyddoedd nesaf. Mae’r hogan yn gallu sgwennu… Dewi Prysor a fi wedi mwynhau ei gwaith hi’n arw.

A sbiwch hwyl ges i efo rhai eraill o’r criw oedd ar y llwyfan efo fi!
image

Ia, fo ydi o…

Advertisements

3 comments on “Llyfrau Steddfod yr Urdd

  • Helo Bethan Gwanas,
    Efa sydd yma o Ysgol Bro Cinmeirch. Rydw i am argymell rhai o lyfrau i chi roi yn eich blog, sef ‘Pants are Everything’ gan Mark Lowery oherwydd mae’n ddoniol. ‘Tom Gates’ gan L.Pichon oherwydd mae’n ddoniol hefyd ac oherwydd mae’r lluniau yn dda. ‘Cyfrinach Ifan Hopcyn’ gan Eiry Miles a ‘Jelygaid’ gan Sonia Edwards am fod y straeon yn wreiddiol ac yn wahanol. Dau o fy hoff lyfrau yn y byd yw ‘The Treasure House’ gan Linda Newbery oherwydd mae y stori yn anturis iawn a ‘Sky Hawk’ gan Gill Lewis oherwydd ei bod yn stori deimladwy a thrist.
    Efa

    • Diolch yn fawr Efa! Mi wnai wneud blog go iawn allan o hwn yn fuan iawn, iawn. Mi wnai aros am argymhellion cwpwl o blant eraill a’u rhoi i gyd efo’i gilydd. Yn y cyfamser, dwi isio darllen rheina i gyd rwan!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: