‘Na, Nel!’ gan Meleri Wyn James

Published Mai 24, 2014 by gwanas

image

Cyfrol ar gyfer plant 7-9 oed ydi hon, am Gymraes fach ofnadwy o ddireidus. Mae’r awdures, Meleri Wyn James wedi defnyddio ei phlant ei hun fel ysbrydoliaeth wrth greu cymeriad Nel mae’n debyg, ond does bosib eu bod nhw mor ofnadwy o ddrwg â Nel. Ond eto, does wybod!

Tair stori ddoniol yn arddull Horrid Henry sydd yma, ac er fod y llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr rhwng 7 a 9 oed, mae hefyd yn addas i’w ddarllen i blant iau.
Mae’r iaith yn ddeheuol, gyda phethau fel “yn gwmws” a “clatsho bant” felly plant i’r de o Fachynlleth fydd yn hoffi’r gyfrol hon fwya, ond eto, mae’n ddigon hawdd i oedolyn addasu wrth ddarllen yn uchel yntydi, a phun bynnag, mae hanesion Nel yn siwr o apelio at blant Sir Fôn hefyd!
Does gan Meleri ddim ofn sgwennu am bethau sy’n gwneud i blant chwerthin – sef cyfeiriadau at bethau tŷ-bachaidd, wrth gwrs.
image

Fel y gwelwch chi, mae’r lluniau yn hyfryd, a gan John Lund o Gaerdydd. O, a Sion, gŵr Meleri greodd y clawr. Dyna ei waith o efo’r Cyngor Llyfrau…

Dyma i chi flas o gynnwys ac arddull y llyfr, sef y dudalen gyntaf:

image

Roedd yn well gen i’r ail stori na’r gyntaf; ro’n i wrth fy modd gyda’r ffordd mae Nel yn hanner gwrando ar stori Blodeuwedd ac yn deud wrth bawb ei bod hi ei hun wedi ei gwneud o flodau. Mi wnes i chwerthin yn uchel efo’r ‘Storiau wibli wobli’!

Dyma lyfr delfrydol i rieni ei ddarllen i’w plant, yn enwedig os yw’r plant braidd yn ddrwg eu hunain, neu â brawd neu chwaer fach debyg i Nel. Dwi’n gwybod am ambell un…

“Wrth gwrs, mae llawer o lyfrau da ar gael i blant sy’n addasiadau o lyfrau Saesneg,” meddai Meleri pan gafodd y llyfr ei gyhoeddi eleni, “ond ro’n i eisiau sgrifennu straeon digri oedd â blas Cymreig. Mae’r straeon yn cyflwyno hanesion ac arferion Cymreig yn ogystal ag anturiaethau Nel a’i ffrindiau. Rwy wrth fy modd yn darllen ers fy mod i’n ferch fach ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod digonedd o ddewis o lyfrau Cymraeg ar gael.”

Amen, Meleri. Cytuno’n llwyr!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: