Dynion yn darllen llai

Published Ebrill 17, 2014 by gwanas

image

Mi ges i’r linc i’r erthygl hon drwy Gareth, cynhyrchydd rhaglen radio Tudur Owen. A dydi’r stori ddim yn synnu rhywun.
Pan ro’n i’n blentyn, byddai fy nhad yn darllen nofelau yn eitha cyson. Ond wedi i’r fan llyfrgell roi’r gorau i alw heibio ffermydd, mi roddodd yntau’r gorau iddi. Straeon cowbois oedd y ffefrynnau, dwi’n cofio, rhai gan awduron fel Zane Grey:
imageimage

Be oedd eich tad chi’n ei ddarllen? Be mae eich tad chi’n ei ddarllen? Ydi o’n darllen llyfrau o gwbl? A be am eich yncl/ewyrth neu eich brawd – neu eich athro? Eu darllen o ran pleser, nid dyletswydd, dwi’n ei feddwl.

Pam fod dynion yn fwy tebygol o droi at ffilm neu i roi’r gorau i lyfr ar ei hanner? Does gen i’m syniad. Dwi’n tueddu i fod yn ffrindiau efo dynion sy’n mwynhau darllen. A bod yn onest, os wela i ddyn yn darllen llyfr ar drên neu ar draeth, dwi’n sylwi mwy arno, yn meddwl, ‘Hm, sgwn i sut foi ydi o?’ Iawn, ydw, dwi’n fwy tebygol o’i ffansio fo hefyd!
imageimageimage

Ydach chi’n cytuno efo fi, ferched? Dwi’n eitha siwr eich bod chi.

Dyna ni ylwch! Yr ateb i gael mwy o ddynion a bechgyn yn darllen llyfrau – dweud wrthyn nhw y bydd mwy o ferched yn eu ffansio nhw! Neu yn fwy tebygol o ddangos diddordeb o leia. A dydi defnyddio unrhyw hen lyfr fel prop ddim yn cyfri… Yn ôl yr erthygl, roedd 1 o bob 5 dyn yn esgus eu bod wedi darllen llyfr er mwyn ymddangos yn fwy clyfar… Ha! Gêm beryg os wyt ti’n delio efo merch sy’n hoffi llyfrau…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: