Coffau cymeriadau llenyddol

Published Mawrth 4, 2014 by gwanas

Mi wnes i roi sylw i nofel Madam Wen yn Y Cymro a’r Herald yn ddiweddar, ac un peth wnaeth fy nharo wrth sgwennu oedd cyn lleied o sylw sydd i gymeriadau llenyddol yng Nghymru: cymeriadau dychmygol dwi’n ei feddwl, cymeriadau sydd wedi bod yn annwyl i ni, neu’n boblogaidd am gyfnod hir.
Dwi’n cofio meddwl hyn ar ymweliad â Kiev (pan oedd pethau’n dawel yno) pan welais i gofgolofn hyfryd i gymeriad allan o lyfr ar ganol y pafin:
images
Panikovskyi ydi hwn, twyllwr oedd yn esgus ei fod yn ddall.

Ac yn Rwsia, dyma lun o gymeriad llyfrau plant hynod boblogaidd, Cheburashka:news_11877_n
Ac mae na gofgolofnau lu dros y wlad ohono fo a’i ffrindiau dychmygol:Unknown-5

Pam nad oes cofgolofn i Wil Cwac Cwac neu Sali Mali yng Nghymru?Unknown-6Unknown-7
Dwi’n gwybod bod pentre cyfan i Sali Mali yng Ngheredigion, ond pam nad oes un ar y prom yn Aber? Byddai’n dangos i ymwelwyr bod gynnon ni ein llyfrau a’n llenyddiaeth ein hunain yn un peth.

A byddai cerflun hardd o Madam Wen rhywle yn ardal y Llynnoedd ar Ynys Môn yn wych – rhywbeth fel hyn:image ond efo clogyn wrth gwrs.

Nid dyma’r amser i sôn am bethau fel hyn, mi wn, gan fod y cynghorau yn chwilio am ffyrdd o arbed arian yn hytrach na’i wario. Ond rhywbeth i gofio amdano pan ddaw eto haul ar fryn efallai?

Gyda llaw, dwi’n falch iawn bod Barn ( rhifyn Mawrth) wedi rhoi sylw i gyfres Mellt o’r diwedd:
image
Cyfres o lyfrau ar gyfer darllenwyr 11-14 oed. Do, dwi wedi sgwennu un ohonyn nhw
image
a dwi wrthi’n darllen rhai o’r lleill – hanner ffordd drwy Eilian a’r Eryr gan Euron Griffith Unknown-8ar hyn o bryd a digri iawn hyd yma.
A nofel cwbl wahanol i f’un i, sy’n un ffantasi efo tipyn o ladd a gwaed.Unknown-9
Mae’r lleill yn swnio’n gwbl wahanol hefyd, felly siawns na fydd un i blesio rhywun!
Diolch am y sylw Helen Angharad Evans – a Barn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: